Rowland Filfel
Roedd Syr Rowland Filfel (neu Roland de Velville; hefyd Vielleville, Veleville, neu Vieilleville) (1474 – 25 Mehefin 1535)[1] efallai yn fab anghyfreithlon i Harri VII, brenin Lloegr a Llydawes na wyddys bellach mo'i henw.[2]. Roedd Harri tua 14 oed pan gafodd Rowland ei genhedlu. Wedi marwolaeth Rowland Filfel, canodd y bardd Dafydd Alaw farwnad iddo gan ddweud ei fod o "linach brenhinol", a gwyddwn fod ei gyfoeswyr yn credu mai Harri Tudur oedd ei dad yr adeg honno.
Rowland Filfel | |
---|---|
Ganwyd | 1474 |
Bu farw | 25 Mehefin 1535 Castell Biwmares |
Tad | Harri VII |
Mam | Llydawes anhysbys (?) |
Plant | Jane Velville, Grace de Vielleville |
Mae'n debygol iddo gyd-deithio gyda Harri mewn llong o Lydaw i Benfro pan gychwynodd ar ei daith drwy Gymru i Frwydr MaesBosworth.[3] Dychwelodd i Lydaw, fel rhan o daith gan lu bychan o filwyr yn 1489, lle nodir ei enw fel "Roland de Bella Vill".
Er nad oedd ganddo safle /swydd swyddogol, roedd yn ŵr llys poblogaidd ac yn "cael ei ffafrio gan y brenin, gan gymryd rhan mewn ymwaniadau a hela, gyda Harri VII".[1] Cafodd ei hyfforddi'n filwr yn Llydaw yn 1489 ac o bosib yn Ffrainc hefyd yn 1492. Dyrchafwyd ef yn farchog wedi Brwydr Blackheath yn 1497 a derbyniodd lawer o ffafrau gan y brenin drwy gydol ei oes.[1][4]
Rowland oedd tad Jane Velville, mam Catrin o Ferain. Claddwyd ef yng Nghapel y Forwyn Fair ym Miwmares.[1]
Ynys Môn
golyguYn ôl yr haneswyr Beauclerk-Dewar a Powell dengys y dystiolaeth hanesyddol i Filfel fod yn bresennol mewn llawer o ymwaniadau swyddogol megis priodasau uchelwyr, ymweliadau brenhinoedd tramor, rhwng 1494–1507. Ym Mai 1509 roedd yn brennol yn angladd Harri VII, fel Marchog o'r Gosgordd Brenhinol ac yna bu'n rhan o ddathliadau dyrchafu Harri VIII i orsedd Lloegr. Ychydig wedyn, yn 1509, fe'i hapwyntiwyd yn Gwnstabl a Chapten Castell Biwmares, Ynys Môn, swydd y daliodd tan iddo farw ym Mehefin 1535.[1][2]
Priodi a phlant
golyguPriododd Agnes (née Griffith), gweddw Robert Dowdyng a merch Gwilym Griffith Fychan (m. 1483) o'r Penrhyn, rywdro rhwng 1520-8; roedd Agnes felly'n chwaer i Syr William Griffith, Siambrlen Gogledd Cymru.[1][2] O'r briodas hon, cafwyd dwy ferch: Grace a Jane. Jane oedd mam Catrin o Ferain a elwid yn "Fam Cymru".[5] Roedd teulu'r Giffiths yn un o deulu mwayf pwerus Cymru yr adeg honno, ac perthyn i'r Tuduriaid drwy Ednyfed Fychan.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Peter Beauclerk-Dewar & Roger Powell, "King Henry VII (1457–1509): Roland de Velville (1474–1535)", yn Royal Bastards: Illegitimate Children of the British Royal Family (Stroud, 2008), e-lyfr, tud. 177–186.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Alison Weir, Britain's Royal Families: The Complete Genealogy (Llundain, 1999), tud. 152.
- ↑ Beauclerk-Dewar & Powell, tud. 177–186, yn cyfeiro at Prof S. B. Chrimes, Prifysgol Caerdydd, a W. R. B. Robinson, ar wahân yn Welsh Historical Review, a Prof R. A. Griffiths & R. S. Thomas, Coleg Prifysgol, Abertawe, yn The Making of the Tudor Dynasty.
- ↑ The British Monarchy (The official website of), 2014, "Accession", see [1], adalwyd 22 Mehefin 2014.
- ↑ John Ballinger, "Katheryn of Berain", Y Cymmrodorion 40 (1929), gweler [2], adalwyd 22 Mehefin 2014.
- ↑ Royal Bastards; adalwyd 26 Rhgfyr 2015