Rowland ap Meredydd
Roedd Rowland ap Meredydd (tua 1529 - tua 1600) yn aelod o deulu o uchelwyr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Fôn ym 1558 a 1559.[1]
Roedd Rowland yn fab hynaf i Meredydd ap Rhys ap Hywel, Bodowyr, Llanidan a Catherine merch Owain ap Meurig, Bodowen sef chwaer Lewis ab Owain ap Meurig AS Môn 1553 a 1572. Roedd Owain ap Huw AS Niwbwrch 1545 yn gefnder iddo. Priododd Agnes ferch Rhydderch ap Dafydd, Myfyrion, Llanidan, bu iddynt bedwar mab ac un ferch. Roedd Agnes yn chwaer i Rhisiart ap Rhydderch AS Niwbwrch 1541.[2]
Bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch yn Sir Fôn rhwng 1555 a 1600.
Cyfeiriadau
golyguSenedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Wiliam Lewis |
Aelod Seneddol Ynys Môn 1558 - 1558 |
Olynydd: Richard Bulkeley |