Wiliam Lewis (Prysaeddfed 1532)

uchelwr Cymreig

Roedd Syr Wiliam Lewis, Prysaeddfed, Bodedern (tua 1526 - tua 1601) yn uchelwr Cymreig a gynrychiolodd etholaeth Sir Fôn yn Senedd Lloegr ym 1553 a 1555.[1]

Roedd yn fab i Hugh Lewis, Prysaeddfed ac Agnes, merch Syr William Gruffydd, Penrhyn, Sir Gaernarfon. Bu farw Hugh Lewis tra oedd William yn blentyn a chafodd ei fagu gan Syr John Pulston, Caernarfon a'r Bers. Priododd Margaret ferch Syr John Pulston bu iddynt tri mab a saith merch. Wedi marwolaeth Margaret briododd Elen ferch Edward ap Hugh Gwyn Bodewryd. Etifeddodd Ystâd Prysaeddfed gan ei daid ym 1532.[2]

Yn ogystal â gwasanaethu fel Aelod Seneddol Môn bu William hefyd yn Uchel Siryf y Sir ym 1548-9, 1557-8 a 1571-2. Fe'i urddwyd yn farchog tua 1554.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 [1] adalwyd 26 Rhagfyr 2015
  2. History of parliament on line LEWIS, William (by 1526-1601 or later), of Presaddfed in Bodedern and Gaerwen, Anglesey [2] adalwyd 26 Rhagfyr 2015
  3. Nicholas, Thomas 1872 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales [3] adalwyd 26 Rhagfyr 2015
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Lewis ab Owain ap Meurig
Aelod Seneddol Ynys Môn
1553
Olynydd:
Richard Bulkeley (bu farw 1573)
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Richard Bulkeley
Aelod Seneddol Ynys Môn
1555
Olynydd:
Rowland ap Meredydd