Digrifwr stand-yp Prydeinig oedd Roy Jay (19482007).[1][2][3] Roedd yn perfformio gyda chyfeiliant cerddorol ac yn gwisgo gwisg carcharor, gan adrodd jôcs wedi ei gymysgu gyda'i ymadroddion "spook!" a "slither hither". Gwnaeth Jay ymddangosiadau ar raglenni poblogaidd yn yr 1980au gan gynnwys yn The Little and Large Show, The Bob Monkhouse Show a The Laughter Show.

Roy Jay
Roy Jay yn 1982
Ganwyd1948 Edit this on Wikidata
Oslo Edit this on Wikidata
Bu farw2007 Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganed Roy Jay yn Oslo, yn fab i dad o Norwy a mam Albanaidd/Gwyddelig. Gadawodd Norwy gyda'i deulu yn bedair oed i fyw yn Ne Cymru. Pan oedd yn wyth oed, treuliodd flwyddyn yn Corc, Iwerddon yn astudio Gwyddeleg a'r ffidil, ac wedi hynny dychwelodd at ei rieni yng Nghymru. Symudodd y teulu yn fuan eto, i Atherton ym Manceinion Fwyaf, lle mynychodd Ysgol Uwchradd Hesketh Fletcher. Yn 15 oed, ymunodd Roy â Llynges Frenhinol Norwy. Wedi dychwelyd i fywyd sifil, perfformiodd fel canwr mewn band a berfformiodd mewn clybiau bychain a neuaddau dawns yng ngogledd Lloegr. Yn dilyn hyn, daeth Jay yn Rheolwr Adloniant Cynorthwyol yng ngwersyll gwyliau Pontins yn Southport lle dechreuodd berfformio comedi stand-yp.

Gyrfa golygu

Ym 1973, Roy Jay oedd y brif act mewn cabaret yn dilyn pasiant harddwch Miss Gibraltar, a ddarlledwyd ar deledu rhwydwaith Sbaen. Aeth Jay ar daith o gwmpas clybiau Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru cyn cael cynnig taith dri mis o amgylch De Affrica yn 1975. Arhosodd Jay am wyth mis ac adeiladodd ddilyniant yn gyflym yn y wlad cyn dychwelyd i wledydd Prydain. Ym 1979, disgrifiwyd Jay gan bapur newydd The Stage "fel neb arall" gan ddarogan enwogrwydd iddo yn y dyfodol. Yn y cyfnod hwn, roedd Jay yn perfformio gyda delwedd a ysbrydolwyd gan oes y tedi boi ac roedd ei act yn cwmpasu canu a dynwarediadau o Leo Sayer a Gene Vincent, ymhlith eraill.[4]

Yn gynnar yn yr 1980au, dechreuodd Jay ymddangos ar y teledu gyda'i act "Spook Spook Slither Hither". Byddai Jay yn cerdded o amgylch y llwyfan i gyfeiliant cerddorol yn gwisgo iwnifform ystrydebol carcharor, gan ddweud jôcs byr rhwng ei ymadroddion bachog. Byddai'n aml yn dweud "you'll all be doing it tomorrow" wrth gyfeirio at yr act. Ym 1982, hunan-ryddhaodd Jay sengl, "Vehicle / You Might Need Somebody". Mae ochr A yn fersiwn o sengl boblogaidd o 1970 gan yr Ides of March, a ddefnyddiwyd yn aml fel cyfeiliant cerddorol i act Jay.[5] Cafodd y ddau drac hyn eu cynnwys ar albwm hunan-deitl ar Recordiau Clubland yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Mae'r albwm yn cynnwys fersiynau Jay o ganeuon poblogaidd gan gynnwys "Dimples" gan John Lee Hooker, "A Whiter Shade of Pale" gan Procol Harum a "The Show Must Go On" gan Leo Sayer.[6]

Ym 1983, ymddangosodd Jay ar The Bob Monkhouse Show ac fe'i cyflwynwyd gan Monkhouse fel "digrifwr newydd gyda arddull unigryw ei hun".[7] Ym mis Mehefin y flwyddyn honno, ymddangosodd Jay ar sioe Chas a Dave, Knees-Up.[8] Daeth Jay i'w enwogrwydd mwyaf yn y cyfnod hwn, gan ymddangos mewn hysbysebion teledu ar gyfer Smiths Square Crisps a lemonêd Schweppes. Ym mis Ebrill 1984, roedd Jay yn ymddangos yn rheolaidd gyda Les Dennis a Dustin Gee yng ngyfres gyntaf o The Laughter Show ar BBC1.[9]

Ar 29 Awst 1984, perfformiodd Jay yng nghlwb Inn on the Park yn Jersey. Pan aeth yn rhwystredig gyda heclwyr, gollyngodd ei drowsus ar y llwyfan o flaen cynulleidfa deuluol. Cafodd Jay ddirwy o £200 ar ôl cyfadde i drosedd o ddinoethi'n anweddus. Cafodd y digwyddiad sylw yn y cyfryngau ac amharodd ar ddelwedd gyhoeddus Jay.[10] Ni wnaeth Jay ymddangos fel perfformiwr rheolaidd yn ail gyfres The Laughter Show, ond ymddangosodd fel gwestai yn y drydedd bennod ym mis Mawrth 1985.[11]

Blynyddoedd diweddarach a marwolaeth golygu

Mewn blynyddoedd diweddarach, roedd Jay yn perfformio yn Benidorm. Bu farw Roy Jay yn 59 oed yn dawel yn ei gartref ym mis Tachwedd 2007. Talwyd am ei angladd gan ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan gyfeillion lleol yn dilyn ei farwolaeth. Cynhaliwyd yr angladd yn Amlosgfa Villajoyosa ar 22 Ionawr 2008.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Spook Spook Slither Hither Man" (yn en). The Stage. 11 Awst 1983. https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0001180/19830811/115/0038. Adalwyd 27 Tachwedd 2020.
  2. "I.M.A." (yn en). The Stage: 36. 17 Mai 1984. https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002334/19840302/126/0018. Adalwyd 27 Tachwedd 2020.
  3. "Roy Jay" (yn en). The Stage: 4. 29 Tachwedd 1984. https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0001180/19841129/028/0004. Adalwyd 27 Tachwedd 2020.
  4. "Roy Jay" (yn en). The Stage: 7. 13 Medi 1979. https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0001180/19790913/063/0007. Adalwyd 27 Tachwedd 2020.
  5. "Roy Jay - Vehicle". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Tachwedd 2020.
  6. "Roy Jay – Roy Jay". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Tachwedd 2020.
  7. "Roy "Spook!" Jay on the Bob Monkhouse Show, 1983". Youtube (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Tachwedd 2020.
  8. "Knees-Up". IMDB (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Tachwedd 2020.
  9. "The Laughter Show: New Series" (yn en). Drogheda Argus and Leinster Journal: 18. 2 Mawrth 1984. https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002334/19840302/126/0018. Adalwyd 27 Tachwedd 2020.
  10. "Flash act Roy says 'I'm sorry'" (yn en). Reading Evening Post: 3. 31 Awst 1984. https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002471/19840831/034/0003. Adalwyd 27 Tachwedd 2020.
  11. "The Laughter Show" (yn en). Aberdeen Evening Express: 6. 2 Mawrth 1985. https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000445/19850302/185/0016. Adalwyd 27 Tachwedd 2020.