Awdur o Iran yw Roya Hakakian (Persieg: رویا حکاکیان; ganwyd 1966) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, newyddiadurwr, gweithredydd dros hawliau dynol a chofiannydd.[1]

Roya Hakakian
Ganwyd1966 Edit this on Wikidata
Tehran Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Iran Iran
Alma mater
  • Coleg Brooklyn
  • Prifysgol Hunter Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, gohebydd, amddiffynnwr hawliau dynol, cofiannydd, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Asian American Literary Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.royahakakian.com/new Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Tehran, Iran yn 1966 cyn troi'n ffoadur, ymfudo a setlo yn Unol Daleithiau America. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Brooklyn a Phrifysgol Hunter. [2][3]

Cafodd Hakakian ei geni a'i magu mewn teulu Iddewig-Persiaidd yn Tehran. Roedd hi'n ei harddegau yn ystod Chwyldro Iran yn 1979, a theimlai'n gyffrous yng nhylch y newidiadau arfaethedig. Ar ôl gwneud Ayatollah Khomeini yn 'Arweinydd Goruchel Cyntaf', a chynnydd mewn gwrth-semitiaeth, pwysau cymdeithasol ac economaidd, a rhyfel parhaus ag Irac, ymfudodd Roya Hakakian ym Mai 1985, i’r Unol Daleithiau ar loches wleidyddol. Astudiodd seicoleg yng Ngholeg Brooklyn ac enillodd Radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Talaith Southern Connecticut.

Yr awdur golygu

Daeth Hakakian i sylw fel awdur ar gyfer ei chofiant, a gyhoeddodd yn 2004, sef Journey from the Land of No. Cyhoeddwyd ei thraethodau am Iran yn y New York Times, y Washington Post, y Wall Street Journal ac ar NPR. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Guggenheim iddi yn 2008, cyhoeddodd Assassins of the Turquoise Palace yn 2011, cyfrif ffeithiol o lofruddiaethau arweinwyr gwrthblaid Iran ym Merlin.[4]

Llyfryddiaeth golygu

  • Journey from the Land of No: A girlhood caught in revolutionary Iran
  • Assassins of the Turquoise Palace
  • Perseg: بخاطر آب (For the Sake of Water)
  • Perseg: نامی سزاوار نیایش (A Name to Worship)

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015.
  2. Anrhydeddau: https://www.gf.org/fellows/all-fellows/roya-hakakian/. dyddiad cyrchiad: 24 Rhagfyr 2020.
  3. "Invitation to see alum Roya Hakakian speak to CUNY students". lacuny.wordpress.com. Cyrchwyd 2 Awst 2011.
  4. "Roya Hakakian 2008 Guggenheim Fellowship page". www.gf.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Hydref 15, 2011. Cyrchwyd Awst 2, 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. https://www.gf.org/fellows/all-fellows/roya-hakakian/. dyddiad cyrchiad: 24 Rhagfyr 2020.