Rubén Darío
Bardd o Nicaragwa yn ysgrifennu yn Sbaeneg oedd Félix Rubén García Sarmiento, yn ysgrifennu dan y ffugenw Rubén Darío (18 Ionawr 1867 – 6 Chwefror 1916). Adnabyddir ef fel "Tad Moderniaeth".
Rubén Darío | |
---|---|
Ffugenw | El Príncipe de las Letras Castellanas, El Padre del Modernismo |
Ganwyd | Félix Rubén García Sarmiento 18 Ionawr 1867 Ciudad Darío |
Bu farw | 6 Chwefror 1916 o sirosis León |
Dinasyddiaeth | Nicaragwa |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, diplomydd, gohebydd, llenor, hunangofiannydd |
Swydd | conswl |
Adnabyddus am | Azul, Cantos de vida y esperanza, Prosas profanas y otros poemas |
Priod | Rafaela Contreras, Rosario Murillo, Francisca Sánchez del Pozo |
llofnod | |
Ganed Darío yn Metapa, Nicaragwa, tref sy'n awr wedi ei hail-enwi yn Ciudad Darío ar ei ôl. Ymwahanodd ei reni yn fuan ar ôl ei enedigaeth, a dim ond dwywaith yn ei fywyd y gwelodd ei fam wedyn. Dechreuodd farddoni yn ieuanc, a chafodd yr enw "El Niño Poeta" ("y bachgen-fardd"); roedd yn cyhoeddi ei farddoniaeth erbyn bod yn ddeuddeg oed.
Teithiodd i El Salvador, lle cyfarfu a Francisco Gavidia, a gyflwynodd lenyddiaeth Sbaeneg a Ffrangeg iddo. Yn ddiweddarach symudodd i Tsile, lle cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Emelina. Yn ddiweddarach daeth yn newyddiadurwr ar La Nacion yn yr Ariannin. Dychwelodd i Nicaragwa yn 1883.
Yn 1888 cyhoeddodd ei gasgliad Azul... ("Glas..."), a ddaeth ag ef i amlygrwydd fel un o sylfaenwyr y mudiad Modernismo mewn llenyddiaeth Sbaeneg.