Rwtwliaid
Grŵp ethnig sydd yn frodorol i Ddagestan a rhanau eraill o Aserbaijan yng ngogledd y Cawcasws yw'r Rwtwliaid. Maent yn siarad Rwtwleg, un o ieithoedd gogledd-ddwyreiniol y Cawcasws. Mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn Fwslimiaid Swnni.[1]
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Poblogaeth | 48,000 |
Crefydd | Swnni |
Gwladwriaeth | Aserbaijan, Rwsia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguCredir bod y Rwtwliaid yn ddisgynyddion i'r Albaniaid. Erbyn canol y seithfed ganrif, roedd y Mwslimiaid Rwtwlaidd y brwydro'n ffyrnig yn erbyn goresgyniadau Rwsia yn y 18fed ganrif. Lansiwyd y Shîc Mansur jihad yn 1785 i yrru byddinoedd Catrin Fawr yn eu hôl. Wedi cyfnod hir o ymdrechion milwrol i orchfygu'r Cawcasws, ildiodd y Rwtwliaid o'r diwedd yn 1864.[2]
Yn sgil Chwyldro Rwsia, gwrthryfelodd y Rwtwliaid yn 1930. Cymerodd llawer ohonynt ran yn yr Ail Ryfel Byd fel rhan o'r Fyddin Goch.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yurkov, Y.A.; Sokolin, V.L. (1998). Population of Russia: 1897-1997. Statistical Abstract (PDF). State Committee of the Russian Federation on Statistics (Goskomstat of Russia). t. 213. ISBN 5-89476-014-3. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-10-24. Cyrchwyd 2023-02-01.
- ↑ James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016).