Ryan a Ronnie (cyfrol)
Cyfrol hanesyddol gan Hywel Gwynfryn yw Ryan a Ronnie a gyhoeddwyd yn 2013 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]
Awdur | Hywel Gwynfryn |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781848514324 |
Genre | Cofiannau Cymraeg |
Hanes un o ddeuawdau enwocaf Cymru, Ryan a Ronnie, gan y darlledwr Hywel Gwynfryn. Yn y gyfrol ddadlennol hon, cawn gip y tu ôl i'r llenni ar fywydau'r ddau a gymharwyd â Morecambe a Wise a'r Ddau Ronnie, ond a oedd, yn y pen draw, yn neb llai na nhw eu hunain.
Daw Hywel Gwynfryn o Ynys Môn yn wreiddiol. Mae ganddo ddiddordeb mawr ym myd adloniant Cymru a chafodd yrfa hir ym myd darlledu ar y radio a'r teledu. Bu'n darlledu gyda'i raglen Helo Bobol ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer ac ar un adeg, ei uchelgais oedd cyfweld â phawb oedd yn siarad Cymraeg yng Nghymru.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.