Sakai
(Ailgyfeiriad o Sakai, Osaka)
Dinas a phorthladd fawr yn Japan yw Sakai (Japaneg: 堺市 Sakai-shi) a leolir yn nhalaith Osaka ar ynys Honshu.
Math | dinasoedd dynodedig Japan, dinas fawr, dinas Japan, satellite city, tref noswylio |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sakai |
Poblogaeth | 827,277, 824,408 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Sakai Shimin no Uta, Q22128880 |
Pennaeth llywodraeth | Hideki Nagafuji |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Gefeilldref/i | Dinas Wellington, Berkeley, Lianyungang, Da Nang, Nishinoomote, Nakatane, Minamitane, Higashiyoshino, Tanabe |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Senboku, Osaka metropolitan area, Keihanshin |
Sir | Osaka |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 149.83 km² |
Gerllaw | Osaka Bay, Afon Yamato, Ishizu River, Kōmyō Pond |
Yn ffinio gyda | Osaka, Matsubara, Habikino, Tondabayashi, Osakasayama, Kawachinagano, Izumi, Takaishi |
Cyfesurynnau | 34.57333°N 135.483°E |
Cod post | 590-0078 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Sakai |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Sakai |
Pennaeth y Llywodraeth | Hideki Nagafuji |
Ers y canoloesoedd, mae Sakai wedi bod yn un o borthladdoedd mwyaf Japan o ran maint a pwysigrwydd. Wedi ail-drefnu trefi talaith Osaka yn 2005, Sakai bellach yw 14eg dinas mwyaf Japan o ran poblogaeth gyda poblogaeth o tua 830,000.[1] Daeth Sakai i fod yn ddinas dynodedig ar 1 Ebrill 2006.
Wardiau
golyguMae gan ddinas Sakai 7 o wardiau (Japaneg: 区, ku):
Tomenni claddu
golyguMae Sakai yn enwog am ei thomenni claddu enfawr siap twll clo. Gelwir yr rhain yn kofun ac maent yn dyddio o'r 5g. Mae'r fwyaf ohonynt, Daisen Kofun yn cael ei adnabod fel bedd yr Ymerawdwr Nintoku. Dyma fedd mwyaf y byd o ran arwynebedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sakai City profile Archifwyd 2006-12-11 yn y Peiriant Wayback. Accessed 2007-03-13. Er fod y cyfeirnod yn datgan Sakai fel 14eg dinas mwyaf poblog Japan, nid yw hyn yn cynnwys Tokyo.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Dinas Sakai (Saesneg) Archifwyd 2010-02-26 yn y Peiriant Wayback