Canwr a chyfansoddwr Seisnig yw Sam Smith (ganwyd 19 Mai 1992) a ddaeth yn enwog ym mis Hydref 2012 ar ôl canu ar sengl y band "Disclosure" o'r enw "Latch", a gyrhaeddodd uchafbwynt o rhif 11 ar yr UK Singles Chart. Roedd eu ymddangosiad ddilynol ar gân Naughty Boy "La La La", sengl a aeth i rif un ym mis Mai 2013. Ym mis Rhagfyr 2013, enwebwyd Smith ar gyfer y 2014 Brit Critics' Choice Award a'r BBC Sound of 2014 Poll, gan ennill y ddau.

Sam Smith
GanwydSamuel Frederick Smith Edit this on Wikidata
19 Mai 1992 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylHampstead Edit this on Wikidata
Label recordioCapitol Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St Mary's Catholic School
  • Ed W. Clark High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, awdur geiriau, canwr, cyfansoddwr caneuon, cerddor, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth yr enaid, cyfoes R&B, cerddoriaeth boblogaidd, rhythm a blŵs Edit this on Wikidata
Math o laisuwchdenor, tenor Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLady Gaga, Etta James, Aretha Franklin, Luther Vandross, Beyoncé Knowles, Whitney Houston, Adele, Sia Edit this on Wikidata
PartnerBrandon Flynn Edit this on Wikidata
Gwobr/auGrammy Award for Record of the Year, Grammy Award for Song of the Year, Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Grammy Award for Best Pop Vocal Album, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, BET Award for Best New Artist, MOBO Awards, Out100, Out100 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.samsmithworld.com/ Edit this on Wikidata

Rhyddhawyd albwm stiwdio gyntaf Smith, In the Lonely Hour, ym mis Mai 2014 ar Capitol Records UK. Rhyddhawyd prif sengl yr albwm, "Lay Me Down", cyn "La La La". Daeth ail sengl yr albwm, "Money on My Mind", yn ail sengl rhif un Smith yn y DU. Roedd trydydd sengl yr albwm, "Stay with Me", yn llwyddiant rhyngwladol, gan gyrraedd rhif un yn y DU a rhif dau ar yr US Billboard Hot 100, tra cyrhaeddod y bedwaredd sengl "I'm Not the Only One" y pump uchaf yn y ddwy wlad. Cyrhaeddodd y bumed sengl, "Like I Can", rif naw yn y Deyrnas Unedig.

Bywyd Cynnar

golygu

Ganwyd Samuel Frederick Smith ar yr 19 Mai 1992 yn Llundain, i Frederick Smith a Kate Cassidy. Cafodd Smith eu bwlio am gael bronnau pan yn blentyn, a chafodd liposugno yn 12 oed.[1]

Bywyd personol

golygu

Yn 2014 cyhoeddodd Smith eu bod yn hoyw ac ei fod wedi bod mewn perthynas a'r actor model Jonathan Zeizel. Yn Medi 2019 dywedodd eu bod yn anneuol a felly ddim yn uniaethu gyda un rhyw neu'r llall a newidiodd eu rhagenw i 'nhw'.

Albymau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Wong, Curtis M. (March 15, 2019). "Sam Smith Opens Up About Gender Identity, Body Image In Candid Interview". HuffPost. Cyrchwyd March 17, 2019.