Sandra Maischberger

actores

Awdur a chyflwynydd teledu o'r Almaen yw Sandra Maischberger (ganwyd 25 Awst 1966) sydd hefyd cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a chynhyrchydd ffilm.

Sandra Maischberger
Ganwyd25 Awst 1966 Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Westdeutscher Rundfunk Edit this on Wikidata
PriodJan Kerhart Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Hanns-Joachim-Friedrichs-Award, Gwobr Romy, Golden Schlitzohr, Deutscher Fernsehpreis, Bavarian TV Awards, Hildegard von Bingen Award, Gwobr Ernst Schneider, Goldene Kamera, Medienpreis für Sprachkultur, Goldene Kamera Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn München ar 25 Awst 1966. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Ludwig Maximilian, Munich a Choleg Werner-Heisenberg.[1]

Magwraeth golygu

Treuliodd Maischberger bum mlynedd o'i phlentyndod yn Frascati, ger Rhufain, yr Eidal, a chafodd ei magu yn Garching, ger Munich. Roedd ei thad yn ffisegydd i Gymdeithas Max Planck ac roedd ei mam yn dywysydd teithiau.[2] Mae hi'n chwaer i Martin Maischberger, archeolegydd o'r Almaen.[2][3][4] Pan oedd yn ei harddegau, ei dewis gyrfa oedd fel milfeddyg neu'n dditectif. Rhwng 1987 a 1989 hyfforddodd yn Ysgol Newyddiaduraeth Ludwig Maximilian Prifysgol Munich.[4][5][6][7]

Gyrfa golygu

Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol, dechreuodd Maischberger weithio yn y Bayerischer Rundfunk, darlledwr radio ym Munich, ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio i wahanol orsafoedd teledu gan gynnwys Premiere, RTL, VOX, n-tv, ac ARD. O 1992, cymedrolodd 0137, sioe sgwrsio fyw, bob-yn-ail gyda Roger Willemsen.[5]

Mae Maischberger wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gan gynnwys Hand aufs Herz (Llaw ar y Galon) (cyfweliad gyda Helmut Schmidt)[8] a Die musst Du kennen — Menschen machen Geschichte, sef gwyddoniadur (neu fywgraffiadur) o wyddonwyr, arlunwyr a gwleidyddion nodedig drwy'r oesau.[9]

Ers 2003, mae Maischberger wedi bod yn cymedroli sioe sgwrsio ar Das Erste. Yn 2009, ar achlysur 60 mlynedd sefydlu Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, cyfwelodd y Canghellor Angela Merkel.[10] Cymedrolodd Maischberger hefyd (ar y cyd gyda Maybrit Illner, Peter Kloeppel a Claus Strunz) yr unig ddadl etholiad teledu rhwng Merkel a'i gwrthwynebydd, Martin Schulz, cyn etholiadau 2017, a ddarlledwyd yn fyw ar bedair o sianeli teledu mwyaf poblogaidd yr Almaen.[11]

Anrhydeddau golygu

  • 2000: Hanns-Joachim-Friedrichs-Award
  • 2001: Gwobr Teledu Bafaria
  • 2002: Ernst-Schneider-Preis
  • 2002: Goldene Kamera
  • 2004: Medienpreis für Sprachkultur, (GfdS)
  • 2008: Goldene Kamera
  • 2013: Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen
  • 2016: Gwobr Romy

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyddiad geni: "Sandra Maischberger". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sandra Maischberger". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sandra Maischberger". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. 2.0 2.1 "Sandra Maischberger Interview". GQ (Germany). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-19. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010. (mewn Almaeneg)
  3. "Archeology and the Cities of Asia Minor in Late Antiquity". University of Michigan. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010.[dolen marw]
  4. 4.0 4.1 Parmeggani, Aldo (22 Medi 2006). "Im Gespräch mit... Sandra Maischberger". Vatican Radio. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010. (mewn Almaeneg)
  5. 5.0 5.1 "Sandra Maischberger". Vincent TV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-02. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010.
  6. Alma mater: "Vor dem Schreiben gedrückt" (yn Almaeneg). 17 Mai 2010. Cyrchwyd 29 Awst 2018. Dummerweise schrieb ich mich bei Kommunikationswissenschaften ein und schritt nach drei Tagen zur Exmatrikulation.
  7. Anrhydeddau: http://www.hanns-joachim-friedrichs.de/index.php/preistr%C3%A4ger-2000.html. dyddiad cyrchiad: 19 Tachwedd 2019. http://www.schlitzohren.org/das-goldene-schlitzohr/. dyddiad cyrchiad: 12 Ionawr 2020. https://www.stmwi.bayern.de/fileadmin/user_upload/stmwi/Themen/Wettbewerbe/Medienpreise/2017-01-16_Bayerische_Fernsehpreistraeger-1989-2016__2017-01_.pdf. dyddiad cyrchiad: 22 Mehefin 2019. https://gfds.de/medienpreise/#medienpreis. dyddiad cyrchiad: 3 Tachwedd 2019.
  8. Gohler, Bernhard, gol. (2002). Hand Aufs Herz: Helmut Schmidt Im Gesprach Mit Sandra Maischberger. Econ. t. 266. ISBN 3-430-17964-5. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010.
  9. Maischberger, Sandra, gol. (2004). Die musst du kennen. CBJ. t. 352. ISBN 3-570-12871-7. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2010.
  10. Stasi wollte Merkel anwerbe Münchner Merkur, 19 Mai 2009.
  11. Markus Ehrenberg (3 Medi 2017), So gut waren die Moderatoren Tagesspiegel.