Sannan
Sant Celtaidd oedd Sannan (fl. diwedd y 5g - dechrau'r 6g?). Ceir y ffurfiau Senanus a Senen ar ei enw hefyd a cheir sant yn Llydaw o'r enw Seny sydd efallai i'w uniaethu â Sannan.[1] Dethlir ei Ŵyl Mabsant ar 29 Ebrill yn draddodiadol.
Sannan | |
---|---|
Eglwys y Seintiau Afran, Ieuan a Sannan, Llantrisant, Ynys Môn | |
Bu farw | Gwytherin, Conwy |
Man preswyl | Llansannan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Blodeuodd | 5 g |
Prif ddylanwad | Dewi Sant |
Dydd gŵyl | 29 Ebrill |
Hanes a thraddodiad
golyguDywedir fod Sannan yn perthyn i gylch Dewi Sant a'i fod wedi sefydlu Llansannan yng ngogledd Cymru (bwrdeistref sirol Conwy). Fe'i cysylltir â Bedwellte yn ne Cymru yn ogystal.[1]
Mae'r traddodiadau amdano'n gymysg ac efallai'n ymwneud â mwy nag un sant o'r enw. Sonnir amdano fel diacon yn Iwerddon a chafodd fab o'r un enw a oedd yn nai i Sant Padrig, ond mae hynny'n ymddangos yn bur annhebygol.[1]
Dethlid gwylmabsant Sannan yn Llantrisant, Môn, yn ogystal ag yn Llansannan a Bedwellty.[1]
Ceir plwyf St Sennen ar benrhyn Land's End yng Nghernyw hefyd ond nid oes sicrwydd mai'r un sant oedd Sennen a Sannan.
Eglwysi
golygu- Eglwys Sant Sannan, Llansannan
- Eglwys Sant Sannan, Bedwellte; ceir "Ffynnon Sannan" ger yr eglwys
- Hen Eglwys y Seintiau Afran, Ieuan a Sannan, Llantrisant, Ynys Môn
Seintiau eraill o'r enw 'Sanan'
golygu- Sanan ferch Cyngen - merch Cyngen o Bowys a Tudglid ferch Brychan,gwraig Maelgwn Gwynedd, yn ôl De Situ Brecheniauc (§12(9) yn EWGT t.15).[2]
- Sanan ferch Elise - mae'n debygol mai ei thad, Elise, oedd mab Gwylog ap Beli o Bowys; roedd yn wraig i Nowy. Cafodd dri mab: Gruffudd, Tewdws a Cathen (HG 15, JC 8 in EWGT pp. 11, 45).