Eglwys Sant Sannan, Llansannan

eglwys rhestredig Gradd II* yn Llansannan

Dywedir fod Eglwys Sant Sannan, sydd wedi'i lleoli yng nghanol pentref Llansannan, Conw wedi ei chodi yn y 13g; cyfeirnod grid OS: SH93406590. Saif Llansannan tua saith milltir i'r de o Abergele. Bu eglwys cynharach, tua chanllath i ffwrdd, ac mae ei holion i'w gweld hyd heddiw. Oherwydd fod ynddi lawer o rannau canoloesol, gwreiddiol, cafodd ei chofrestru gan Cadw yn Gradd II*.[1] Mae'r to hefyd yn un hynod, er mai o'r 19g mae'n dyddio, gan i'r hen do gael ei dynnu a'i ddefnyddio i godi tai lleol yr adeg honno. Ceir nifer o gofebau i uchelwyr lleol, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 19g. Mae'r pulpud yn nodedig iawn acyn mynd yn ôl i'r 17g. Saif ym mhlwyf Petrual, ynghyd â Llanfair Talhaearn, Llangernyw a Gwytherin.[2] Cysegrwyd yr eglwys i Sant Sannan, sant o'r 6ed neu'r 7g a ddaeth o Iwerddon.

Eglwys Sant Sannan, Llansannan
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlansannan Edit this on Wikidata
SirLlansannan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr164.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1795°N 3.59641°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iSannan Edit this on Wikidata
Manylion

Gwyddom i'r hen eglwys gael ei hadnewyddu yn 1778-9, yn fwy na thebyg gan R. Lloyd Williams. Costiodd fil o bunnoedd, a chyfrannodd teulu lleol y Wynniaid hanner hynny. Codwyd y ports hefyd yr adeg yma yn ogystal â tho newydd.[3] Yn rhan orllewinol yr eglwys ceir dwy drochfa bedydd, sydd bellach wedi'u gorchuddio a cheir dau fedyddfaen.

Dywedir fod Sannan yn gyfaill i Ddewi Sant a Teuyth, tad Gwenffrewi a'i fod wedi cael ei gladdu yng Ngwytherin. Ei ddydd gŵyl yw 8 Mawrth.

Mae yma gist a elwir yn "Gist yr Eglwys" gyda'r dyddiad 1683 arni a mainc gyda'r dyddiad 1634 sydd â llun o babi wedi'i cherfio arni.

Cofnodir yr eglwys yn gyntaf yn y Norwich Taxation yn 1254 fel: Ecc'a de Llannssannan ac yna yn Taxatio y Pab nicolas fel Ecclesia de Llansaman.[4]

Henebion a chofebau golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Coflein;[dolen marw] adalwyd Mawrth 2016
  2. llansannan.org; adalwyd Mawrth 2016
  3. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd Mawrth 2016
  4. Gwefan CPAT; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd Mawrth 2016.

Dolenni allanol golygu