Cadfan (sant)
Sant Cymreig oedd Sant Cadfan (fl.550?) a sefydlodd yr eglwys yn Nhywyn, Gwynedd, a gysegrir iddo, ac ef oedd abad cyntaf Ynys Enlli.
Cadfan | |
---|---|
Ganwyd | c. 530 Llydaw |
Bu farw | 590 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig |
Blodeuodd | 550 |
Swydd | abad |
Dydd gŵyl | 1 Tachwedd |
Daw y rhan fwyaf o'r wybodaeth amdano o awdl Canu Cadfan gan Llywelyn Fardd yn y 12g. Mae traddodiad iddo arwain mintai o seintiau Cymreig i Lydaw a dywedir ei fod yn fab i Eneas y Llydawr. Yn ôl Llyfr Llandaf, hwylio i Dywyn o Armorica wnaeth ef a deuddeg arall. Yn ôl traddodiad Llydaw yw Armorica, er bod rhai yn cynnig mai o ysgol Gristnogol ar lan y môr ym Mhrydain y daeth, megis Llanilltud Fawr. Yn ôl traddodiad ei glas yn Nhywyn oedd y cyntaf a sefydlwyd ganddo yng Nghymru.
Cadfan ydyw nawddsant Llangadfan, Sir Drefaldwyn. Ei waith pennaf oedd sefydlu'r ‘clas’ yn Nhywyn, Meirionnydd; yr oedd i'r sefydliad hwn abad mor ddiweddar â 1147, ac yr oedd yno nifer o glerigwyr yn 1291. Tywyn oedd mam-eglwys pob rhan o Feirionnydd-is-Dysynni .
Ei ddydd gŵyl yw 1 Tachwedd.
Llefydd cysylltiedig
golyguRhestr Wicidata:
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | Carreg Cadfan | 52°35′17″N 4°05′07″W / 52.588°N 4.0853°W | Gwynedd | Q10957107 | |
2 | Eglwys Sant Cadfan | 52°35′17″N 4°05′07″W / 52.588°N 4.0853°W | Tywyn | Q7592734 | |
3 | Eglwys Sant Cadfan | 52°40′54″N 3°27′51″W / 52.681645°N 3.4642708°W | Banw | Q29486597 | |
4 | Llangadfan | 52°41′11″N 3°27′45″W / 52.686281°N 3.462404°W | Powys | Q6661409 |
Llyfryddiaeth
golygu- S. Baring-Gould & John Fisher, The Lives of the British Saints, [4 vols.] (1907-1913), ii, 1-9;
- J. E. Lloyd, A History of Wales, (1911): 490;
- The Royal Commission on Ancient Monuments, An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire. VI - County of Merioneth. (1921), 170-4;
- (Ll.G.C. MS. 6680), Llawysgrif Hendregadredd, 42-8.