Gredifael
Sant o Gymro; fl. 6g. Fe'i cysylltir ag Eglwys Gredifael ar Ynys Môn.
(Ailgyfeiriad o Sant Gredifael)
Sant o Gymru oedd Gredifael (fl. 6g). Fe'i cysylltir ag Eglwys Gredifael ar Ynys Môn. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 13 Tachwedd, yn flynyddol.
Gredifael | |
---|---|
Ganwyd | 580 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 6 g |
Dydd gŵyl | 13 Tachwedd |
Tad | Ithel Hael |
Hanes a thraddodiad
golyguRoedd yn fab i Ithel Hael yn ôl un traddodiad. Treuliodd gyfnod yn Hendy-gwyn ar Daf, clas gynnar a chanolfan eglwysig yn ne-orllewin Cymru.
Ei unig sefydliad yw Eglwys Gredifael, Penmynydd, Môn; enw arall ar y pentref oedd Llanredifael. Yn llan yr eglwys ceir Bedd Gredifael a chredid bod cysgu ar y maen yn iacháu'r claf. Gerllaw yr eglwys ceir Ffynnon Redifael mewn llecyn o'r enw Cae Gredifael. Fel yn achos nifer o ffynhonnau eraill yn y wlad roedd hon yn gysylltiedig â iacháu dafadennau trwy eu pigo â phin a'i thaflu i'r ffynnon wedyn.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954). Tud. 142.