Hychan

Sant o'r 5ed ganrif
(Ailgyfeiriad o Sant Hychan)

Sant a gŵr Cristnogol oedd Hychan a fu'n byw yn yr hyn a elwir heddiw yn Llanychan, ger Dinbych tua 450 OC; roedd ganddo hefyd gysylltiad gydag ardal Llanfarian, Aberystwyth.

Hychan
GanwydSir Ddinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd450 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl8 Awst Edit this on Wikidata
Llanychan, rhwng Rhewl a Gellifor, Rhuthun, Sir Ddinbych (Cyfeirnod OS: SJ 114621).

Yn Cognacio Brychan, De Situ Brecheniauc ac yn llawysgrif "Achresi Eglwys Crist MS 20", dywedir ei fod yn un o feibion Brychan, brenin a sant (fl. 5g), sefydlwr teyrnas Brycheiniog (yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru) yn ôl y traddodiad. Dethlir ei ddydd mabsant ar 8 Awst.[1]

Ceir dwy eglwys wedi'u henwi ar ei ôl.

Llanychan, Rhuthun golygu

Sonir am Llanychan yn gyntaf yng 'Nghofnodion Treth Norwich' yn 1254.[2] Mae ei llan gylchog uchel yn nodedig iawn ac yn brawf y bu yma unwaith Eglwys Geltaidd, gynharach. Mae Eglwys Sant Hychan yn debyg iawn o ran arddull i Eglwys Sant Cynhafal, ond ei bod yn llawer llai ac nid oes iddi ddau gorff, nodwedd bensaernïol gyffredin iawn yn Nyffryn Clwyd. Yn y 16g ceir y sillafiad 'Llan Hichen'.

Llanfarian, Aberystwyth golygu

Eglwys fechan yng nghymuned Llanfarian yw Eglwys Sant Hychan.[3] Cofnodir ei henw hefyd fel Llanychaiarn.[4] Mae hanner ei mynwent yn gron. Fe'i lleolir tua 350m i'r de o Gastell Tan-y-Bwlch (castell gwreiddiol Aberystwyth) a godwyd yn wreiddiol yn 1110; mae'n bosibl i'r eglwys gael ei chodi ar yr un pryd, neu'n gynharach, ond nid oedd plwyf Sant Hychan yn bodoli yn yr Oesoedd Canol, dim ond 'capel' a berthynai i Lanbadarn Fawr.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. An Essay on the Welsh Saints or the primitive Christians, usually considered ... gan Rice REES (B.D.). adalwyd 2 Hydref 2016.
  2. "Gwefan Eglwys Llanychan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-26. Cyrchwyd 2016-10-02.
  3. Gwefan coflein; adalwyd 2 Hydref 2016.
  4. Gwefan coflein; adalwyd 2 Hydref 2016.

Llyfryddiaeth golygu

  • Cambria Archaeology, 2000, Ceredigion Churches, gazetteer, 48. T.Lloyd, J.Orbach & R.Scourfield, Buildings of Wales: Carmarthenshire and Ceredigion (2006), t.539-40.


 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: