Saparmurat Niyazov
Saparmurat Atayevich Niyazov (19 Chwefror 1940 – 21 Rhagfyr 2006) oedd arlywydd cyntaf Tyrcmenistan. Bu'n arlywydd ei wlad o 1991 hyd ei farwolaeth o drawiad calon yn 2006. Cyn ei dymor fel arlywydd rheolai'r wlad fel Prif Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Tyrcmenistan o 1981 ymlaen. Un o'i enwau swyddogol oedd Twrcmenbashi, sef "Tad y Tyrcmeniaid".
Saparmurat Niyazov | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1940 Gypjak |
Bu farw | 21 Rhagfyr 2006 Ashgabat |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Tyrcmenistan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, hunangofiannydd |
Swydd | Arlywydd Tyrcmenestan, people's deputy of union of socialist soviet republics |
Adnabyddus am | Ruhnama, Garaşsyz, Bitarap, Türkmenistanyň Döwlet Gimni, Walk of Health |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Democratic Party of Turkmenistan |
Tad | Atamyrat Nyýazow |
Mam | Gurbansoltan Eje |
Priod | Muza Niýazowa |
Plant | Myrat Nyýazow |
Gwobr/au | Hero of Turkmenistan, Q4335952, Q4335857, Q30894224, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Medal "For Labour Valour, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words), Order of St. Mesrop Mashtots, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Order of Holy Prince Daniel of Moscow 1st class, Q98457058 |
llofnod | |
Roedd yn arweinydd awdurdodaidd iawn a fu'n gyfrifol am sawl weithred ormesol yn erbyn ei wrthwynebwyr. Mae Global Witness, sefydliad hawliau dynol sy'n gweithredu o Llundain, yn amcangyfrif fod gan Niyazov ffortiwn personol, mewn banciau tramor, o dros 3 biliwn o ddoleri ($2 biliwn ohono yn fuddsoddiedig yn Foreign Exchange Reserve Fund y Deutsche Bank yn yr Almaen). Er gwaethaf ei record fe'i cefnogwyd gan yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig fel cynghreiriad pwysig yn y "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth."
Cefndir
golyguBu farw tad Niyazov yn ymladd yr Ail Ryfel Byd, ac fe fu gweddill ei deulu mewn daeargryn yn Aşgabat ym 1948. Cafodd ei fagu mewn cartref plant amddiffad Sofietaidd, nes i'r awdurdodau ei roi dan warchodaeth perthynas pell.
Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1962. Esgynodd yn bur gyflym trwy'r blaid, nes ddod yn bennaeth Plaid Gomiwnyddol y Weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Tyrcmenaidd ym 1985.
Roedd yn briod â Muza, a chawsant fab o'r enw Murat a merch o'r enw Irina.
Addoliad ei bersonoliaeth
golyguOrdinhadau Arlywyddol
golyguTra'n Arlywydd-hyd-ei-oes, gosododd lawer o ordinhadau dadleuol ac anarferol ar y bobl Dyrcmenaidd:
- Ym mis Ebrill 2001, gwaharddwyd ballet ac opera.
- Yn 2004, gwaharddwyd dynion ifanc rhag tyfu barfau neu wallt hir.
- Ym mis Mawrth 2004, ymddiswyddwyd 15,000 o weithwyr iechyd gan gynnwys nyrsys, bydwragedd, ac ymwelwyr iechyd. Fe'u disodlwyd gan orfodogion milwrol.
- Ym mis Ebrill 2004 annogwyd i bobl ifanc Tyrcmenistan gnoi ar esgyrn er mwyn ddiogelu eu dannedd, yn hytrach na mewnosod dannedd neu gapiau aur.
- Ym mis Ebrill 2004 gorchmynwyd i balas o rew gael ei adeiladu ger Aşgabat.
- Ers 2004, bu'n rhaid pasio prawf moesoldeb er mwyn cael trwydded yrru.
- Yn 2004 gwaharddwyd cyflwynwyr newyddion rhag wisgo colur.
- Ym mis Chwefror 2005 gorchmynwyd cau pob ysbyty y tu allan i Aşgabat, ac y dylai pawb mynd i'r brifddinas am driniaeth.
- Ym mis Tachwedd 2005 gorfodwyd i feddygon tyngu llw i'r Arlywydd, yn hytrach na'r llw Hipocrataidd.
- Ym mis Rhagfyr, gwaharddwyd gemau fideo, am iddynt cael eu hystyried yn rhy dreisgar i Dyrcmeniaid ifanc.
- Ym mis Ionawr 2006, atalwyd pensiynau trean o hen bobl y wlad, a gostyngwyd pensiynau 200,000 arall. Gorchmynwyd iddynt ad-dalu'r taliadau o'r ddwy flynedd blaenorol i'r wladwriaeth.
- Ym mis Medi 2006, gorchmynwyd y dylid peidio â dyrchafu (neu ymddiswyddo hyd yn oed) athrawon nad oeddynt yn clodforio'r Arlywydd yn gyhoeddus.
- Ym mis Hydref 2006, honodd yr awdurdoau Tyrcmenaidd iddynt rhyddhau 10,056 o garcharorion, digwyddiad a gelwid yn Noson Hollalluogaeth.
- Newidiwyd yr enwau Tyrcmenaidd am fara a mis Ebrill i enw ei ddiweddar fam, Gurbansoltanedzhe.
- Gwaharddwyd radios mewn ceir a cherddoriaeth wedi ei recordio.
- Gorchmynwyd fod presenoldeb sgrîn fideo yn angenrheidiol ym mhob lle cyhoeddus.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol (Saesneg) Archifwyd 2007-02-16 yn y Peiriant Wayback
- Gwefa answyddogol (Saesneg)
- Global Witness Report Archifwyd 2006-12-14 yn y Peiriant Wayback
- Ruhnama - Llyfr ar-lein gan Turkmenbashy Archifwyd 2013-11-04 yn y Peiriant Wayback
- Transcript proffeil ar y rhaglen 60 Minutes, 2004
- Proffeil Gwlad Newyddion y BBC - Turkmenistan gyda erhyglau ar Saparmurat Niyazov
- PARADE Magazine's 2006 Annual List Of The World’s 10 Worst Dictators
- "Double Standards for Dictators", The Washington Post, 14 Ebrill, 2006
- "Show Trials Like Stalin's in Turkmenistan", The New York Times, 27 Ionawr, 2003