Sara Maria Saunders
Roedd Sara Maria Saunders (1864–1939) yn awdures Gymraeg. Daeth yn enwog dan ei henw llenyddol S.M.S.
Sara Maria Saunders | |
---|---|
Ffugenw | S.M.S. |
Ganwyd | Mawrth 1864 Cwrt Mawr |
Bu farw | Ionawr 1939 Lerpwl |
Galwedigaeth | llenor, efengylwr |
Tad | Robert Joseph Davies |
Mam | Frances Davies |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Sara Maria Davies ym 1864 ym mhlasty bychan Cwrt Mawr, Llangeitho, Ceredigion ym 1864. Hi oedd yr hynaf o ddeg o blant Frances Humphreys a Robert Joseph Davies. Roedd y teulu'n Fethodistiaid pybyr - ei thad yn ben-blaenor yng Nghapel Gwynfil, Llangeitho. Fe'i haddysgwyd adref, ac yna mewn ysgol fonedd yng Nghaerwragon ac yn y Ladies College, Lerpwl. Wedi gorffen ei haddysg, mae'n debygol iddi symud yn ôl adref at ei theulu yn Llangeitho. Profodd droedigaeth ysbrydol yn ystod y cyfnod, a bu'n efengylydd cwbl ymroddedig am weddill ei hoes.
Priododd John Saunders, Pregethwr Methodist ym 1887, a symud i fyw i Lanymddyfri. Ordeiniwyd John Saunders yn Awst 1890 yn Sasiwn Tregaron. Denwyd y ddau i Benarth yn 1891, adeg sefydlu'r Symudiad Ymosodol - y Forward Movement, braich genhadol y Methodistiaid Calfinaidd yn canolbwyntio ar ardaloedd trefol a diwydiannol Morgannwg a Mynwy. Ymunodd Sara Maria'n frwdfrydig yng ngweithgareddau menywod y Symudiad Ymosodol, gan annerch cynulleidfaoedd a chynorthwyo i drefni a chodi arian. Fel rhan o'r ymgyrch, cychwynodd gyfrannu erthyglau i'r Drysorfa am gymeriadau ei phlentyndod a brofodd droedigaeth a drawsnewidiodd eu bywyd yn ystod Diwygiad 1897. Cyhoeddwyd yr erthyglau mewn cyfrol Llon a Lleddf yn 1897. Yn 1898 symudodd y ddau i Abertawe, lle ganwyd eu merch Mair yn 1901. Ganwyd Olwen eu merch ym Mhen-coed yn 1903. Parhaodd Sara Maria gyda'i gwaith cenhadol. Ffurfiwyd Adran y Merched o'r Sefydliad Ymosodol yn Llandrindod ym 1903, a sefydlwyd adran yn Abertawe gan Sara Maria yr un adeg. Yn ystod Diwygiad 1904-05, cofnododd Sara Maria ddylanwadau pwerus y cyfnod mewn dwy gyfres o hanesion i'r Ymwelydd Misol a gyhoeddwyd dan y teitlau Y Diwygiad ym Mhentre Alun, 1907, a Llithiau o Bentre Alun, 1908.
Oherwydd problemau meddygol, cynghorwyd Sara Maria ym 1912 i beido a gadael y tŷ o hyn ymlaen. Pan wahoddwyd John Saunders i fod yn weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd St David's, Auckland, Seland Newydd, penderfynwyd derbyn y cynnig gan y byddai'r hinsawdd yn well i'w hiechyd. Erbyn 1918 roedd gan John Saunders hefyd broblemau iechyd, a symudodd y ddau i dde Califfornia. Bu John Saunders farw yno ym Medi 1919. Arohosodd Sara Maria yno tan mis Gorffennaf 1920, gan symud yn ôl i Gaerdydd erbyn Awst 1920. Symudodd i Lerpwl ymhen rhai blynyddoedd, a bu farw yno ym 1939.
Cyfranodd yn helaeth at Genhadaeth Dramor Methodistiaid Calfinaidd Cymru, gan ymdrechu'n ddiflino i hwyluso gwaith cenhadesau Cymru.
Gwaith llenyddol
golyguDaeth yn enwog dan ei henw llenyddol S.M.S. Roedd ei gwaith llenyddol, bron yn ddieithriad, yn hybu troedigaeth Gristnogol fel profiad a fedrai drawsnewid dyfodol ei chymeriadau er gwell. Ei chryfder oedd ei hadnabyddiaeth o'r natur ddynol a'i diddordeb mawr mewn pobl. Ysgrifennau am gymeriadau benywaidd a oedd yn unigolion cryf a dylanwadol, ac yn asgwrn cefn eu cymuned. Ysgrifennai'n rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i gylchgronau'r cyfnod, yn bennaf i'r Drysorfa, yr Efengylydd, y Gymraes, a'r Ymwelydd Misol.
Llyfryddiaeth
golygu- Rosanne Reeves, Dwy Gymraes, Dwy Gymru, Gwasg Prifysgol Cymru (2014)