Saunders Davies

Esgob Gymraeg

Gweinidog yn yr Eglwys yng Nghymru oedd Francis James Saunders Davies (30 Rhagfyr 193730 Mawrth 2018) a oedd yn Esgob Bangor o 2000 hyd 2004.

Saunders Davies
Ganwyd30 Rhagfyr 1937 Edit this on Wikidata
Abergwaun Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata

Ganed ef ger Abergwaun, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1963. Daeth yn giwrad cynorthwyol yng Nghaergybi, yna bu yn Llanllyfni, Bangor, Abertawe a Chaerdydd. Yn 1993, daeth yn Archddiacon Meirionnydd. Etholwyd ef yn Esgob Bangor yn 1999 a chysegrwyd ef yn Ionawr 2000. Ymddeolodd yn Chwefror 2004. Bu farw yn 80 oed, ar Ddydd Gwener y Groglith 2018.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Teyrngedau i gyn Esgob Bangor Saunders Davies", BBC (31 Mawrth 2018). Adalwyd ar 31 Mawrth 2018.