Sacsoni
un o daleithiau'r Almaen heddiw
(Ailgyfeiriad o Saxony)
Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Sacsoni, yn llawn Talaith Rydd Sacsoni (Almaeneg: Freistaat Sachsen, Sorbeg Uchaf: Swobodny stat Sakska). Saif yn nwyrain y wlad, yn ffinio ar Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 4.220.200. Prifddinas y dalaith yw Dresden; dinasoedd pwysig eraill yw Leipzig, Chemnitz a Zwickau.
Math | taleithiau ffederal yr Almaen |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sacsoniaid |
Prifddinas | Dresden |
Poblogaeth | 4,089,467 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Michael Kretschmer |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Lower Silesian Voivodeship, Lubusz Voivodeship, Karlovy Vary Region, Ústí nad Labem Region, Liberec Region, Lazio |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 18,415.66 km² |
Uwch y môr | 342 metr |
Yn ffinio gyda | Brandenburg, Bafaria, Thüringen, Sachsen-Anhalt, Ústí nad Labem Region, Liberec Region, Karlovy Vary Region, Lower Silesian Voivodeship, Lubusz Voivodeship |
Cyfesurynnau | 51.0269°N 13.3589°E |
DE-SN | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Landtag of Saxony |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Minister-President of Saxony |
Pennaeth y Llywodraeth | Michael Kretschmer |
Sefydlwyd Talaith Rydd Sacsoni yn 1918 ar ôl yr ymddiorseddiad y brenin Ffredrig Awgwstws III a wedi i Deyrnas Sacsoni ddod i ben. Wedi'r Ail Ryfel Byd daeth yn rhan o Ddwyrain yr Almaen, ac yn 1952 fe'i rhannwyd yn dair rhan, Leipzig, Dresden a Chemnitz (a ail-enwyd yn "Karl-Marx-Stadt" yn ddiweddarach. Ail-ffurfiwyd y dalaith yn 1990 yn dilyn ad-uno'r Almaen.