Taleithiau ffederal yr Almaen
Mae'r Almaen yn weriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn Länder (unigol: Land).[1] Gelwir y taleithiau hyn yn anffurfiol yn Bundesländer ("Gwlad ffederal") neu'n Bundesländer ("Gwledydd Ffederal"). Mae gan yr Almaen gyfansoddiad ffederal, gan iddi gael ei chreu o nifer o weriniaethau cynharach; mae sawl un o'r taleithiau hyn yn dal i gadw rhyw elfen o annibyniaeth a sofraniaeth. Gelwrir tair ohonynt (Berlin, Bremen a Hamburg) yn aml yn Stadtstaaten (“Dinas-Daleithiau") a'r 13 sy'n weddill yn Flächenländer ("Ardal-Dalaith").[2]
Baden-Württemberg
Bafaria
Berlin
Brandenburg
Bremen
Hamburg
Hessen
Mecklenburg-Vorpommern
Niedersachsen
Nordrhein-Westfalen
Rheinland-Pfalz
Saarland
Sacsoni
Sachsen-Anhalt
Schleswig-Holstein
Thüringen
![]() | |
Math | enw un tiriogaeth mewn gwlad unigol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Crewyd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (“Gorllewin yr Almaen”) ym 1949 trwy uno'r taleithiau gorllewinol (a oedd gynt dan weinyddiaeth America, Prydain a Ffrainc) a grëwyd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. I ddechrau, ym 1949, taleithiau'r Weriniaeth Ffederal oedd Baden (tan 1952), Bafaria (yn Almaeneg: Bayern), Bremen, Hamburg, Hesse (Hessen), Sacsoni Isaf (Niedersachsen), Gogledd Rhein-Westphalia (Nordrhein-Westfalen), Rhineland-Palatinate (Rheinland-Pfalz), Schleswig-Holstein, Württemberg-Baden (tan 1952) a Württemberg-Hohenzollern (tan 1952). Integreiddiwyd ac ystyriwyd Gorllewin Berlin yn wladwriaeth de facto, er nad oedd yn swyddogol yn rhan o'r Weriniaeth Ffederal.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Christian Tomuschat, David P. Currie (Ebrill 2010). "Basic Law for the Federal Republic of Germany" (PDF). Deutscher Bundestag Public Relations Division. Cyrchwyd 15 Hydref 2010.
- ↑ House of Commons of the United Kingdom (28 Chwefror 1991). "House of Commons debates (Welsh affairs)". UK parliament. Cyrchwyd 19 Ebrill 2011.