Agor y brif ddewislen

Dull o ddosbarthu syniadau gwleidyddol yn ôl cynllun gofodol yw sbectrwm gwleidyddol. Defnyddir i ddisgrifio a chymharu ideolegau a safbwyntiau gwleidyddion, pleidiau, a mudiadau. Y sbectrwm traddodiadol ydy'r llinell a rennir yn ochrau'r chwith a'r dde, gyda gwleidyddiaeth eithafol ar naill pen y llinell. Seilir y mwyafrif o sbectrymau gwleidyddol eraill ar y dosbarthiad deuol hwn.

Daw'r termau adain chwith ac adain dde o'r Chwyldro Ffrengig, pryd eisteddai'r radicalwyr ac ochr chwith yr ystafell yng nghynulliadau'r Ystadau Cyffredinol, a'r pendefigion ar yr ochr dde. Datblygodd y patrwm o wrthwynebiad rhwng y chwyldroadwyr a'r adweithwyr i ddiffinio gwleidyddiaeth Ewrop yn y 19g, a defnyddiwyd y sbectrwm i grybwyll nifer o gredoau a pholisïau eraill, wedi eu dosbarthu'n fras rhwng y chwith a'r dde. Fel rheol, gwahenir y sbectrwm yn nhermau syniadaeth wleidyddol o ran y berthynas rhwng y wladwriaeth a'r economi: disgrifir safbwyntiau o blaid ymyrraeth economaidd a chyfunoliaeth yn adain chwith, ac agweddau laissez-faire tuag at y farchnad ac unigolyddiaeth yn adain dde. Y tu hwnt i bynciau economaidd, mae diffinio'r gwahaniaethau rhwng y chwith a'r dde yn ddadleuol. Yn gyffredinol, dywed bod yr adain chwith yn gwleidydda ar sail cymunedoliaeth a blaengaredd megis rhyddid, cydraddoldeb, brawdoliaeth, hawliau, diwygio, a rhyngwladoldeb. Ar yr adain arall, mae bydolwg y dde yn adlewyrchu gwerthoedd traddodiadol megis awdurdod, hierarchaeth, trefn, rheol y gyfraith, dyletswydd, a chenedlaetholdeb.[1] Mae llawer o gafeatau i ddosraniad o'r fath, er enghraifft, byddai nifer o geidwadwyr yn coleddu rhyddid yr unigolyn, y teulu a'r genedl, tra byddai nifer o sosialwyr yn parchu rheol y gyfraith a'r drefn wleidyddol wrth ymgyrchu dros eu hamcanion.

Yn yr 20g, datblygwyd y sbectrwm gwleidyddol i grybwyll mudiadau ac ideolegau newydd. Ar ei ffurf symlaf, mae'r sbectrwm unllin yn cynnwys comiwnyddiaeth a ffasgaeth ar bennau eithaf y chwith a'r dde, a rhyddfrydiaeth yn mynychu tir y canol. Yn sgil twf gwladwriaethau totalitaraidd ar sail llywodraethau comiwnyddol a ffasgaidd, datblygwyd y sbectrwm pedol, a'i bennau'n troi'n ôl tuag at ei gilydd, i ddarlunio tebygrwydd yr adain chwith eithafol a'r adain dde eithafol o ran eu tueddiadau awdurdodaidd.

Datblygwyd hefyd sbectrymau dau-ddimensiwn, sy'n cyfuno'r dosraniad traddodiadol ar sail polisi economaidd â rhaniadau gwleidyddol eraill, fel arfer rhwng rhyddid ac awdurdod neu rwng democratiaeth ac awtocratiaeth. Mae sbectrymau o'r fath yn galluogi disgrifio ideolegau anarchaidd, a ellir bod yn adain-chwith neu'n adain-dde.

Defnyddir y dosraniad chwith-dde i ddisgrifio gwleidyddiaeth ar draws y byd hyd yr 21g, ac yn fynych iawn mae unigolion a grwpiau yn uniaethu â mudiadau cyffredinol "y Chwith" a'r "Dde". Er hynny, mae rhai'n dadlau na ellir pennu safle ar y sbectrwm i fudiadau ac ideolegau newydd megis ffeministiaeth ac ecolegaeth, a bod gwleidyddiaeth syncretaidd a'r Drydedd Ffordd yn trosgynnu – neu'n tanseilio – y sbectrwm ac wedi gwneud hen ddeuoliaeth y chwith a'r dde yn ddiangen.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Andrew Heywood, Key Concepts in Politics (Basingstoke, Hampshire: Palgrave, 2000), tt. 27–28.