Math o deisen sbwnj yw sbwnj Génoise. Caiff wyau eu curo gyda siwgr dros ddŵr poeth nes ei fod o ansawdd trwchus. Dibynner ar y gwres i'w gwneud yn sbwnj ysgafn iawn, gan nad oes lefain cemegol ynddi. Ychwanegir blawd a menyn toddi. Mae'n debyg i gymysgedd sbwnj Safwy, ond i wneud sbwnj Safwy caiff y melynwy a'r gwynwy eu curo ar wahân, heb wres, a ni roddir menyn neu fraster ynddi.[1]

Sbwnj Génoise

Gellir dodi siwgr eisin ar ben y sbwnj a'i bwyta'n blaen, neu ei rhannu a'i llenwi gyda jam a hufen, neu eisin menyn, a rhoi eisin ar ei phen. Defnyddir haenau o sbwnj Génoise i wneud rholiau jam, bysedd sbwnj, a theisenni Madlen.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Alan Davidson. The Oxford Companion to Food, 3ydd argraffiad (gol. Tom Jaine; Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014), t. 344.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: