Mynydd uchaf Lloegr yw Scafell Pike, ac mae'n cyrraedd 978m. Fe'i lleolir yn Ardal y Llynnoedd, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'n un o gadwyn hir o fynyddoedd yng nghanol Ardal y Llynnoedd, wedi'i amgylchynu gyda mynyddoedd fel Great Gable, Kirk Fell, Sca Fell a Broad Crag.

Scafell Pike
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolCumbria
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolSouthern Fells Edit this on Wikidata
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr978 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.45417°N 3.21153°W Edit this on Wikidata
Cod OSNY2154107216 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd912 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOrdofigaidd Edit this on Wikidata
Rhiant gopaYr Wyddfa Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddArdal y Llynnoedd, Lloegr Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig igneaidd Edit this on Wikidata

Twristiaeth golygu

Mae llawer iawn o dwristiaid yn ogystal â cherddwyr a dringwyr lleol yn cerdded Scafell Pike bob blwyddyn. Yn wir, mae'r mynydd yn cael ei adnabod fel un o ddringfeydd gorau Ardal y Llynnoedd yn un faint ag yw yn daith gerdded. Er ei safle weddol unig, mae pentref cyfagos o'r enw Nether Wasdale ac mae pentrefi eraill yn bellach. Yn Nether Wasdale mae yna hostel ieuenctid, ac mae safleoedd gwersylla yn frith o gwmpas y lle.

Cerdded golygu

Mae modd cyrraedd y mynydd o nifer o ddyffrynnoedd gwahanol -

  • Eskdale
  • Borrowdale
  • Great Langdale
  • Wasdale Head

Mae ffyrdd Borrowdale ac Eskdale yn hir iawn, ac nid oes golwg o'r mynydd am yn hir. Mae Wasdale Head yn ffordd haws a chyflymach o gyrraedd y mynydd.

Disgrifiodd A. Wainwright Scafell Pike fel mynydd, bob modfedd ohono.

Rhinweddau golygu

Mae Scafell Pike cyfan a'i gadwyn yn ardal greigiog iawn ac mae copa Scafell Pike yn wyneb o gerrig sydd yn rhaid dringo drostynt i gyrraedd y gorlan ar y brig.

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.