Seiclwr ffordd proffesiynol Seisnig oedd Sean Yates (ganwyd 18 Mai 1960, Ewell, Surrey).

Sean Yates
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnSean Yates
Dyddiad geni (1960-05-18) 18 Mai 1960 (63 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Tîm(au) Proffesiynol
1982
1988
1989-1990
1991-1996
Peugeot
Fagor
7-Eleven
Motorola
Prif gampau
Baner Prydain Fawr Pencampwr Cenedlaethol
Golygwyd ddiwethaf ar
12 Hydref 2007

Cyn cychwyn ei yrfa broffesiynol, cystadlodd yng Ngemau Olympaidd 1980, gan orffen yn chweched yn y pursuit 4 kilomedr. Cystadlodd hefyd yng Ngemau Olympaidd 1996. Enillodd Bencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser 25 milltir yn 1980.

Trodd yn broffesiynol yn 1982, gan ymuno â tîm Peugeot, cyn symyd ymlaen i Fagor yn 1988 lle roedd Yr Albanwr Robert Millar hefyd yn aelod. Ymunodd a tîm 7-Eleven yn 1989 ac yna Motorola ble roedd Lance Armstrong hefyd yn aelod.

Yates oedd pencampwr pursuit proffesiynol Prydain yn 1982 a 1983.

Gwariodd Yates y rhafwyaf o'i yrfa proffesiynol fel domestique, ond enillodd gymalau yn y Tour de France a'r Vuelta a España yn 1988. Y flwyddyn honno, enillodd gymal hefyd yn ras Paris-Nice a'r Midi-Libre a gorffenodd yn bedwerydd yn y Kellogg's Tour of Britain. Y flwyddyn canlynol,1989, cymerodd ddau gymal a buddugoliaeth yn y Tour of Belgium, enillodd y GP Eddy Merckx a gorffenodd yn ail yn y Gent-Wevelgem.

Gwisgodd Yates y Maillot jaune fel arweinydd y ras yn ystod Tour de France 1994, ar y pryd ef oedd ond y trydydd Prydeiniwr erioed i wisgo'r crys. Cystadlodd Yates mewn 12 Tour agn gyflawni naw.

Ar ôl ymddeol o fod yn reidiwr proffesiynol yn 1996, daeth Yates yn reolwr y Linda McCartney Racing Team, a gystadlodd yn y Giro d'Italia. Ar ôl i'r tîm ddod i ben yn 2001, helpodd sefydlu tîm Awstraliaidd iteamNova, ond gadawodd ar ôl i'r arian redeg allan. Symudodd ymlaen i reoli tîm Discovery yn 2005 ar wahoddiad Lance Armstrong, arweiniwr y tîm ar y pryd.

Er nad oedd yn reidiwr proffesiynol bellach, cariodd Yates ymlaen i ymarfer a rasio ym Mhrydain, gan ffitio rasio oamgylch ei waith yn rheoli timau. Yn 1997, enillodd Bencampwriaeth Treial Amser 50 milltir, a gorffenodd yn drydydd yn yr un ras yn 2005.

Ym mis Mai 2007, datganodd Yates nad oedd bellach yn gallu cystadlu fel reidiwr 'veteran' oherwyth y trafferthion a oedd yn parhau iw cael gyda afreoleidd-dra yn ei galon.

Ef oedd cyfarwyddwr chwaraeon Discovery Channel Pro Cycling Team yn 2007.

Dolenni Allanol golygu