Macaria notata
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Llwyth: Macariini
Genws: Macaria
Rhywogaeth: M. notata
Enw deuenwol
Macaria notata
Linnaeus, 1758
Cyfystyron

Semiothisa notata

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw seffyr y bedw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy seffyrau'r bedw; yr enw Saesneg yw Peacock Moth, a'r enw gwyddonol yw Macaria notata.[1][2]

Caterpillar

Mae i'w ganfod drwy Ewrop gyfan.

28–32 mm ydy lled eiadenydd agored ac mae i'w ganfod ar ei adain rhwng Mai a Mehefin, yn ddibynol ar ei leoliad. Mae'n hynod o debyg i wyfyn arall o'r enw y Seffyr sgolpiog (Macaria alternata).

Fel yr awgryma'r enw, prif fwyd y siani flewog ydy'r fedwen.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r seffyr y bedw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.