Macaria alternata
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Llwyth: Macariini
Genws: Macaria
Rhywogaeth: M. alternata
Enw deuenwol
Macaria alternata
Denis & Schiffermüller, 1775
Cyfystyron

Semiothisa alternaria

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw seffyr sgolpiog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy seffyrau sgolpiog; yr enw Saesneg yw Sharp-angled Peacock, a'r enw gwyddonol yw Macaria alternata.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop.

22–27 mm ydy lled yr adenydd agored. Mae'n hynod o debyg i'r seffyr y bedw ond gellir gwahanaethu rhyngddynt yn hawdd: mae gan y seffyr sgolpiog fand mwy llydan, ac mae'r lliw llwyd yn dywyllach arno. Fe'i welir yn hedfan rhwng Mai a Mehefin. Prif fwyd y lindys ydy helygen, y wernen, Prunus spinosa a mathau o Hippophae.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r seffyr sgolpiog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.