Segment o linell
Mewn geometreg, rhan o linell rhwng dau ddiweddbwynt (a phob pwynt ar y llinell rhwng y diweddbwyntiau hynny) yw segment o linell neu segment o linell agored. Mae'r term segment o linell caeedig yn cynnwys y ddau ddiweddbwynt a segment o linell rhan-agored yn cynnwys un o'r ddau ddiweddbwynt.
Enghraifft o segment o linell yw llinellau triongl neu sgwâr. Pan fo dau ddiweddbwynt polygon neu bolyhedron yn fertigau, yna mae'r segment o linell honno naill ai yn ymyl (os ydynt yn fertigau cyfagos), neu'n groeslin. Pan fo'r diweddbwyntiau, ill dau, yn gorwedd ar gromlin, e.e. cylch, gelwir y segment o linell honno yn "gord"[1] neu "gord y llinell".
Mewn gofod real neu gymhlyg
golyguLle mae V yn ofod fectoraidd dros neu , ac mae L yn is-set o V, yna mae L yn segment o linell os gellir paramedru L yn
am rai fectorau , lle mae'r fectorau u a u + v yn cael eu galw'n "ddiweddbwyntiau L".
Weithiau mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng segmentau o linell "caeedig" ac "agored". Os felly, yna diffinnir "segment o linell caeedig" fel yr uchod, a diffinnir "segment o linell agored" fel is-set o L a ellir ei baramedru fel
am rai fectorau .
Fel hyn, gellir mynegi'r segment o linell fel cyfuniad amgrwm o'r ddau ddiweddbwynt.
Mewn geometreg, weithiau fe ddiffinnir un pwynt B fel pwynt a leolir rhwng A ac C, os yw'r pellter AB wedi'i ychwanegu gyda'r pellter BC yn hafal i'r pellter AC. Felly, mewn , y segment o linell sydd a diweddbwyntiau A = (ax, ay) a C = (cx, cy) yw'r casgliad canlynol o bwyntiau:
- .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg - Cerddoriaeth, Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 2 Ionawr 2019.