Mewn geometreg, rhan o linell rhwng dau ddiweddbwynt (a phob pwynt ar y llinell rhwng y diweddbwyntiau hynny) yw segment o linell neu segment o linell agored. Mae'r term segment o linell caeedig yn cynnwys y ddau ddiweddbwynt a segment o linell rhan-agored yn cynnwys un o'r ddau ddiweddbwynt.

Y diffiniad geometrig o segment o linell caeedig: Mae'r croestoriad o'r holl bwyntiau ar, neu i'r dde o A, ynghyd â'r holl bwyntiau ar, neu i'r chwith o B.
Ysgythriad copr ar bapur gan Jacques Ozanam yn 1699 o segment o linell yn cael ei chreu ar fwrdd.

Enghraifft o segment o linell yw llinellau triongl neu sgwâr. Pan fo dau ddiweddbwynt polygon neu bolyhedron yn fertigau, yna mae'r segment o linell honno naill ai yn ymyl (os ydynt yn fertigau cyfagos), neu'n groeslin. Pan fo'r diweddbwyntiau, ill dau, yn gorwedd ar gromlin, e.e. cylch, gelwir y segment o linell honno yn "gord"[1] neu "gord y llinell".

Mewn gofod real neu gymhlyg golygu

Lle mae V yn ofod fectoraidd dros   neu  , ac mae L yn is-set o V, yna mae L yn segment o linell os gellir paramedru L yn

 

am rai fectorau  , lle mae'r fectorau u a u + v yn cael eu galw'n "ddiweddbwyntiau L".

Weithiau mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng segmentau o linell "caeedig" ac "agored". Os felly, yna diffinnir "segment o linell caeedig" fel yr uchod, a diffinnir "segment o linell agored" fel is-set o L a ellir ei baramedru fel

 

am rai fectorau  .

Fel hyn, gellir mynegi'r segment o linell fel cyfuniad amgrwm o'r ddau ddiweddbwynt.

Mewn geometreg, weithiau fe ddiffinnir un pwynt B fel pwynt a leolir rhwng A ac C, os yw'r pellter AB wedi'i ychwanegu gyda'r pellter BC yn hafal i'r pellter AC. Felly, mewn  , y segment o linell sydd a diweddbwyntiau A = (ax, ay) a C = (cx, cy) yw'r casgliad canlynol o bwyntiau:

 .

Cyfeiriadau golygu

  1. geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg - Cerddoriaeth, Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 2 Ionawr 2019.