Selsig llysieuol traddodiadol Cymreig ydy selsig Morgannwg. Ei prif gynhwysion ydy caws (Caws Caerffili fel arfer), cennin a briwsion bara.

Selsig Morgannwg

Caiff selsig Morgannwg eu crybwyll gan George Borrow yn ei waith Wild Wales, a ysgrifennwyd yn ystod yr 1850au a cyhoeddwyd ym 1862.[1] Cynhyrchwyd yn wreiddiol gan ddenfyddio caws Morgannwg a gynhyrchwyd yn defnyddio llefrith gwartheg Gent. Nid yw'r gwartheg yn bodoli bellach[2] ond mae caws Caerffili yn tarddu o hen rysait caws Morgannwg ac mae felly gyda blas ac ansawdd tebyg.

Cynhwysion golygu

  • 225g Briwsion bara ffres
  • 125g Caws wedi gratio
  • 3 Ŵy canolig
  • 175g Cennin wedi'i falu'n fân a'i ffrio mewn ychydig o fenyn am 2 funud
  • 1 Llond llwy fwrdd o bersli ffres wedi'i dorri
  • Ychydig o lefrith
  • Halen a phupur gwyn
  • ½ Llwy de o fwstard sych
  • I orffen:
  • 100g Briwsion bara ffres
  • 1 Ŵy canolig
  • 4 Llwy fwrdd o lefrith[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Glamorgan Sausage Recipe. Welsh Holiday Cottages.
  2.  Glamorgan sausage. Gourmet Britain.
  3. "Selsig Morgannwg". Croeso Cymru. Cyrchwyd 2023-03-02.