Gweinidog Tramor Rwsia yw Sergey Viktorovich Lavrov neu Sergei Lafrof[1] (Rwsieg: Серге́й Ви́кторович Лавро́в; ganwyd 21 Mawrth 1950, ym Moscfa).

Sergey Lavrov
Sergey Lavrov


Deiliad
Cymryd y swydd
9 Mawrth 2004
Arlywydd Vladimir Putin (9 Mawrth 2004 – 7 Mai 2008), Dmitry Medvedev (7 Mai 2008 – presennol)
Prif Weinidog Mikhail Fradkov (9 Mawrth 2004 – 14 Medi 2007), Viktor Zubkov (14 Medi 2007 – 7 Mai 2008), Vladimir Putin (7 Mai 2008 – presennol)
Rhagflaenydd Igor Ivanov

Geni (1950-03-21) 21 Mawrth 1950 (73 oed)
Moscfa, yr Undeb Sofietaidd

Daw Lavrov o dras Armenaidd-Rwsiaidd; Armeniad o Tbilisi oedd ei dad.[2]

Mae Lavrov yn medru yn Rwseg, Saesneg, Ffrangeg, a Sinhaleg, a ddysgodd i siarad tra yn Sri Lanca.[3]

Ar 9 Mawrth, 2004 penodwyd Lavrov i olynu Igor Ivanov yn swydd y Gweinidog Tramor gan yr Arlywydd Putin.

Yn Rhagfyr 2006 enwyd Lavrov yn "Berson y Flwyddyn" gan y cylchgrawn Rwsiaidd Expert.

Cyfeiriadau golygu

  1. Samuel Jones, "Yr athronydd yn y Cremlin", O'r Pedwar Gwynt, 30 Tachwedd 2018; adalwyd 2 Rhagfyr 2022
  2. (Saesneg) Ghazinyan, Aris. From Russia With Love?: Foreign Minister's visit an opportunity for assessment. ArmeniaNow. Adalwyd ar 27 Mehefin, 2008.
  3. (Saesneg) Russia's deep suspicion of the West. BBC (15 Rhagfyr, 2007). Adalwyd ar 27 Mehefin, 2008. "He speaks beautiful English, French, and according to his biography, Sinhalese, which he learned while posted to Sri Lanka in the 1970s."

Dolenni allanol golygu