Ysgolaeth

(Ailgyfeiriad o Sgolastigiaeth)

Systemau meddwl y prifysgolion Cristnogol yn yr Oesoedd Canol yw ysgolaeth neu sgolastigiaeth. Ymdrechodd i gysylltu'r ffydd â rheswm drwy gyfuno diwinyddiaeth Gatholig ag athroniaeth glasurol yr hen Roegwyr a'r Rhufeiniaid, a phob amser yn ufuddhau i awdurdod y Beibl. Ceir nifer o ffurfiau ar ysgolaeth, ond fel rheol roedd yn seiliedig ar resymeg Aristotlys ac ysgrifau'r Tadau Cristnogol ac yn pwysleisio traddodiad a dogma'r Eglwys Gatholig.

Darluniad o'r athro Henricus de Alemania yn traddodi darlith, gan Laurentius de Voltolina (tua 1350).

John Scotus Erigena oedd y meddyliwr cyntaf i ymdrin ag ysgolaeth, a hynny yn y 9g. Ymhlith yr ysgolwyr eraill mae Anselm, Archesgob Caergaint, Albertus Magnus, Tomos o Acwin, William o Ockham, Pierre Abélard, Roger Bacon, a Duns Scotus. Cyrhaeddodd ei hanterth yn y 13g, a chyhoeddid Summae (crynodebau) a ddarllenid gan ysgolheigion ar draws Ewrop. Nodweddid y dull ysgolaidd gan broses y ddadl: rhannu'r problemau, dadlau ac ymateb, gwrthddadlau a gwrthbrofi, a dod i gasgliad. Ymdrinia gweithiau'r ysgolwyr â nifer o broblemau athronyddol, megis y berthynas rhwng ewyllys a deall, realaeth ac enwoliaeth, a phrofi bodolaeth Duw. Dylanwadwyd y mudiad cynnar gan draddodiadau cyfriniol a sythweledol patristeg, yn enwedig Awstiniaeth, ac yn hwyrach dysgeidiaeth yr hen Roegwyr.

Collodd ysgolaeth ei bri yn oes y Dadeni, a hyd y 19g fe'i welir yn symbol o feddwl cyntefig a dirmygadwy yr Oesoedd Canol. Trodd "sgolastig" yn derm difrïol am ymlyniad culfarn wrth athrawiaethau traddodiadol.[1] Bellach, ystyrir ysgolaeth yn gyfnod yn hanes athroniaeth sy'n haeddu ei barch ac sy'n llawn meddylwyr penigamp.[2]

Y dull ysgolaidd golygu

Cychwynna'r dull ysgolaidd gydag astudiaeth y testun neu destunau. Wrth ddarllen bu hefyd eglurhad yr athro pan fo angen. Yna, gofynnir cwestiynau i archwilio'r testun a'i geisio deall yn graff. Y cam nesaf oedd i ddarllen ysgrifau gan feddylwyr eraill sy'n ymdrin â'r testun gwreiddiol, ac i ystyried "y sgwrs fawr" rhwng athronwyr a diwinyddion. Trwy'r broses hon câi'r myfyrwyr crap ar rinweddau a gwallau dwy ochr y ddadl. Swyddogaeth y dysgawdr a'r dysgwr yw i ddadansoddi a phenderfynu'r problemau a osodir yn y testun. Gan amlaf, bu'r wers yn ystyried testun athronyddol ar y cyd â'r Beibl. Aristoteliaeth a neo-Blatoniaeth oedd y ddwy brif athroniaeth gan yr ysgolwyr. Defnyddid esboniadau Avicenna ac Averroes ar Aristotlys, a darllenid y neo-Blatonwyr Proclus, Plotinus, Dionysius a'r Ffug-Areopagite.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  sgolasticiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2016.
  2. (Saesneg) Scholasticism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2016.
  3. Stephen F. Brown a Juan Carlos Flores. Historical Dictionary of Medieval Philosophy and Theology (Scarecrow, 2007), tt. 255–6.

Dolenni allanol golygu