Sgrech-bioden y De
Sgrech-bioden y De Dendrocitta leucogastra | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Corvidae |
Genws: | Dendrocitta[*] |
Rhywogaeth: | Dendrocitta leucogastra |
Enw deuenwol | |
Dendrocitta leucogastra | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Sgrech-bioden y De (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: sgrech-biod y De) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Dendrocitta leucogastra; yr enw Saesneg arno yw Southern tree pie. Mae'n perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn D. leucogastra, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Maent yn rhannu eu cynefin yn aml gyda'r Sgrech-bioden yr India ond mae'n ddigon hawdd gwahaniaethu rhyngddyn nhw oherwydd pen a chorff gwyn Sgrech-bioden y De. Pan mae'n galw, mae ei adenydd yn gostwng ychydig. Yn aml, gwelir sawl aderyn yn dod at ei gilydd ar un goeden, gan alw dro ar ôl tro am gymar (rhwng Ebrill a Mai fel arfer).
Wedi paru, gwnant nyth allan o frigau ar goeden o faint gyffredin. Ynddo mae'r iâr yn dodwy tri wy fel arefr, a'r rheiny'n llwyd gyda smotiau gwyrdd.
Teulu
golyguMae'r sgrech-bioden y De yn perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Pioden | Pica pica | |
Sgrech San Blas | Cyanocorax sanblasianus | |
Sgrech benlas | Cyanolyca cucullata | |
Sgrech borffor | Garrulus lidthi | |
Sgrech fechan | Cyanolyca nanus | |
Sgrech gefn borffor | Cyanocorax beecheii | |
Sgrech gribfawr | Cyanocorax chrysops | |
Sgrech hardd | Cyanolyca pulchra | |
Sgrech las | Cyanocitta cristata | |
Sgrech prysgwydd | Aphelocoma coerulescens | |
Sgrech-bioden dalcenddu | Dendrocitta frontalis | |
Sgrech-bioden yr India | Dendrocitta vagabunda | |
Ysgrech y Coed | Garrulus glandarius |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.