Sgwrs:Brehant-Monkontour

Latest comment: 7 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Alwyn, beth am symlhau'r frawddeg agoriadol o:

Mae Brehant-Monkontour (Ffrangeg: Bréhand, Galaweg: Brehant-Monkontour) yn gymuned (Llydaweg: kumunioù; Ffrangeg: communes) yn Departamant Aodoù-an-Arvor (Ffrangeg: Département Côtes-d'Armor), Llydaw.

i:

Mae Brehant-Monkontour (Ffrangeg: Bréhand) yn gymuned yn department Aodoù-an-Arvor (Ffrangeg: Côtes-d'Armor), Llydaw. Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.


Sylwer fod y Llydaweg hefyd yn llifo'n syml:

Brehant-Monkontour a zo ur gumun eus Kanton Plened-Yugon, e departamant Aodoù-an-Arvor, e norzh Breizh.

Efallai nad oes angen yr esboniad "Yn yr erthygl hon" o gwbwl, gan fod dolen ar y gair 'Cymuned' i'r esboniad ar yr erthygl ar gymunedau Llydaw/Ffrainc. Neu ei roi fel Nodyn yng ngwaelod yr erthygl? Y symlaf ydy'r frawddeg agoriadol, y gora, dw i'n meddwl. Gyda llaw, awgrymaf hepgor yr enw Galaweg / Llydaweg mewn cromfachau (Galaweg: Brehant-Monkontour) gan mai dyna teitl yr erthygl. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:20, 21 Awst 2016 (UTC)Ateb


@Llywelyn2000: Diolch! Mi af ati i newid fy mrawddeg agoriadol yn fy nhempled ar gyfer cymunedau Llydaw.
Yn yr obaith nad oes rhaid cadw at reolau "diduedd" yn yr adran "sgwrs", rwy'n amheus am fodolaeth yr iaith Alaweg, mae'n ymddangos i mi yn debyg i Wenglish, Scots ac Ulster Scots, fel tafodiaith o'r iaith ymherodrol sy'n cael ei ddynodi'n iaith er mwyn gwanhau statws yr iaith Geltaidd frodorol. Er gwaethaf fy rhagfarn yn ei erbyn, mae Galweg wedi ei ddynodi fel iaith Ewropeaidd leiafrifol gan yr UE, ac mae Llywodraeth Ffrainc wedi rhoi cyfrifoldeb i Swyddfa'r Llydaweg i'w hyrwyddo; a'r swyddfa sy'n gyfrifol am gadw rhestr swyddogol o enwau llefydd Galaweg. Mae tua 80% o'r enwau yn union yr un fath a'r enwau Ffrengig, 19% yn llythyren neu ddwy yn brin o'r Ffrengig ac mae 'na ychydig iawn megis Brehant-Monkontour yr un, neu'n debycach, i'r enw Llydaweg. Gan fod Galaweg yn iaith swyddogol a chydnabyddir gan yr UE, rhaid cynnwys yr enwau swyddogol mewn erthygl ddiduedd, er gwaethaf fy rhagfarnau, am wn i. Y peth delaf, wrth gwrs byddai dweud bod yr enw Ffrangeg a Galweg yn unffurf, ond gan fy mod yn llenwi bwlch mewn ffurflen allan o restr, yn hytrach nag ysgrifennu brawddeg newydd ar gyfer pob erthygl newydd, byddai hynny'n amlhau at y gwaith. AlwynapHuw (sgwrs) 08:14, 21 Awst 2016 (UTC)Ateb
Chydig iawn o gyfeiriadau sydd ati yn br-wici, felly ei hepgor fyddai orau yfmi. Bum draw yno tua phymtheg o weithiau a chlywais i rioed neb yn ei siarad nac yn cyfeirio ati o gwbwl! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:41, 22 Awst 2016 (UTC)Ateb
Newydd newid ychydig ar y frawddeg uchod. Be wyt ti'n feddwl? Fedra i wneud rhywbeth i helpu? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:48, 22 Awst 2016 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Brehant-Monkontour".