Sgwrs:Cader Idris

Sylw diweddaraf: 10 o flynyddoedd yn ôl gan ApGlyndwr ym mhwnc Cadair Idris

Bothy

golygu

In response to Please check what is Welsh for bothy - See [1]. The origins of the word bothy are unknowna and there is no direct translation. I don't know how common the use of bothy, as a borrowed term, is in Welsh, if anyone else agrees I suggest the best compromise would be Bwthyn Cysgodi (cottage for sheltering).Thaf 13:58, 15 Mai 2008 (UTC)Ateb

Pam ddim defnyddio'r gair cut neu cwt sydd, yn gallu feddwl hut, shed, cottage, hovel yn ol hwn http://www.aber.ac.uk/geiriadur/pdf/GPC0017-03.pdf. Dyma'r gair fysw'n i'n defnyddio i ddisgrifio adeilad bach cerrig fel sydd ar ben y Gader.

Beth am dweud "mae cut ar y copa er mwyn cysgodi"? Y ddafad gorniog 20:30, 27 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Cwestiwn da. Fel mae'n digwydd, dwi'n credu fod bothy, fel y gair Cymraeg 'bwthyn', yn fenthyciad o'r gair Saesneg Canol booth (sef "cottage, lowly dwelling" etc). Ond mae'r bothies mynydd yn fwy o gytiau na bythynod - sy'n cynnig darlun o "dŷ bach twt" yng nghefn gwlad - ac efallai fod 'cwt' yn swnio'n well ('cwt mynydd' efallai, am mai "mountain bothies" yw'r term llawn yn Saesneg)? Dwi'n gyfarwydd a'r un ar ben Foel Fras, er mae'n sbel ers i mi gerdded i fyny, ac yn sicr mae hwnna yn "gwt" o beth yn hytrach na bwthyn. Ond ar ôl dweud hynny, mae rhai o bothies yr Alban yn llefydd tipyn mwy sylweddol - hen fythynod a ffermydd bychain (crofts) yn wreiddiol. Anatiomaros 21:13, 27 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Beth am "lloches mynydd"? Alla i ddim cofio oes yna arwydd ar yr un ar Foel Grach - rwy'n meddwl fod yna rywbeth. Rhion 21:59, 27 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
I'r dim. Ac mae'n dangos cymaint o ddŵr sydd wedi llifo dan y bont ers imi ddringo Foel Fras Foel Grach hefyd! Anatiomaros 22:24, 27 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Mae'n wir fod adeiladau fel sydd ar Ben y Gadair a Foel Grach yn cwympo i fewn i ddiffyniad y term Saesneg "mountain bothy", ond mae hefyd yn cwympo i fewn i ddiffyniad y gair Cymraeg "cwt/cut". Pam fod rhaid cael cyfieithiad yn Gymraeg sydd yn feddwl union yr un peth a term Saesneg? Wicipedia Cymraeg yw hwn wedy'r cwbl, a nid cyfieithiad union o'r Saesneg ydy'r Gymraeg ond iaith ynddo'i hun hefo nuances ei hun. Eniwe, sori am mwydro. Y ddafad gorniog 14:30, 28 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Dolen wallus

golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 03:29, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb


Cadair Idris

golygu

Diolch am y sylwadau cynhwysfawr ar y sgwrs "Cadair Idris". Yn fy marn i, nid yw enwau lleoedd yng Nghymru, o angenrheidrwydd, yn dilyn rheolau ieithyddol cyfoes. Mae nifer o enwau wedi'u llygru wrth i'r Cymry geisio chwilio am gyfieithiad yn ôl i'r Gymraeg wedi i'r fersiwn Saesneg oroesi am ganrifoedd. Mae fy nghyfraniad diweddar ynglŷn â Lecwydd yn dangos y dryswch yma. Er bod y gair "cader" wedi hen ddiflannu o'r geiriaduron cyfoes, mae'r gair yn codi'n aml mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Dylid parchu hynny, a chanolbwyntio mwy ar darddiadau o'r hen iaith yn hytrach na cheisio bathu enwau newydd sy'n colli gwir ystyr tarddiad yr enwau gwreiddiol.ApGlyndwr (sgwrs)

Dyma fy namcaniaeth ynglŷn â’r enw ‘cader’: Defnyddiwyd y gair ‘cader’ i ddisgrifio gorsedd neu amddiffynfa uchelwr - efallai brenin, tywysog neu gawr yn yr amseroedd cynnar yng Nghymru. Benthycwyd y gair o’r Roeg, ac wedyn Lladin h.y. ‘cathedra’ at ddisgrifio’r orsedd, a chan mai ar gopaon mynyddoedd neu fryniau y teyrnasodd yr uchelwyr bryd hynny, cadwyd yr enw ar gyfer nifer fawr o leoliadau o’r fath. Gyda dyfodiad Cristionogaeth, benthycwyd y gair hefyd i enwi prif eglwysi neu ddinasoedd eglwysig i ddangos pŵer y ffydd. Ceid ‘cathedral’ yn Saesneg at yr un pwrpas. Mae’n ddiddorol bod ‘cathedral’ yn enw erbyn hyn, yn hytrach nag ansoddair ar gyfer ‘cathedral city’ neu ‘cathedral church’. Yn yr un modd, defnyddiwyd ‘eglwys gadeiriawl (gadeiriol)’ yn y Gymraeg. Mae’n ddigon posib bod y gair ‘cadair’ wedi’i gymryd o’r ffynhonnell yma, wrth gadw’r ‘ei’ sy yn yr ansoddair. Mae gwybodaeth yn ddigon hysbys am ddyfodiad y cadeiriau cyntaf yng Nghymru tua’r drydedd ganrif ar ddeg, megis dodrefn i eistedd arnynt, ac nid oes gennyf ddadl yn erbyn hynny. Eto mae colli’r enw ‘cader’ ar gyfer bryniau, mynyddoedd a henebion archeolegol yn drist, ac mae’n hen bryd cydnabod hynny mewn geiriaduron cyfoes. Mae’r ystyr yn wahanol i ddisgrifiad dodrefn. ApGlyndwr (sgwrs)
Cofia mai ffeithiau wedi'u sefydlu ar waith ymchwil cyhoeddus ydy Wici, ac nid ein barn ein hunain. Rhestra dy ffynhonnell a mi fedrwn ni ddefnyddio 'cader' ond nid heb ffynhonellau ddibynadwy. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:44, 25 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Mewn camgymeriad, gofynnais yn y Caffi am gael defnyddio ffynhonnell -sef Geiriadur Thomas Charles. Mae'n beryg bod wfftio'r cyhoeddiad hwn yn gallu codi nyth cacwn arall! ApGlyndwr (sgwrs) 09:37, 26 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cader Idris".