Sgwrs:Colandr
Sylw diweddaraf: 3 mis yn ôl gan Llygadebrill ym mhwnc Problemau
Hidlwr?
golygu@Stefanik: Mae Geiriadur Bruce (a ninnau fel teulu) yn defnyddio 'hidlwr'. Newid o bosib? Llywelyn2000 (sgwrs) 15:56, 3 Medi 2024 (UTC)
- sgen i ddim barn cryf. Mae hidlwr i fi yn awgrymu rhywbeth mwy generig a gall olygu hidlo unrhyw beth, tra bod colandr yn benodol ar gyfer hidlo bwyd cyn neu wedi coginio gyda dŵr oer neu boeth. Stefanik (sgwrs) 08:11, 4 Medi 2024 (UTC)
- Digon teg! Diolch am yr erthygl! Mwy o bethau pob-dydd, fel hyn, sydd eu hangen! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 07:26, 5 Medi 2024 (UTC)
Problemau
golygu- Teclyn sy'n rhoi straen ar basta? Pasta druan!
- Gogr byswn i'n galw'r pethau yn y lluniau - dw i'n deall bod angen teitl penodol, ond oni ellid disgrifio'n peth yn fwy naturiol? e.e.: Math arbennig o hidlwr (neu gogr) sy'n cael eu defnyddio wrth wagio dŵr o basta (neu wrth olchi llysiau) yw colandr
- Y cyfeiriad yn y frawddeg gyntaf, a'r adran "Disgrifiad", yn sôn am y gair Saesneg mae'n debyg - rhaid gwneud hynny'n glir
- Cymysgedd o sillafu gyda a heb yr "e". Yn ôl Bruce, colandrau yw'r lluosog.