Sgwrs:Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Sylw diweddaraf: 10 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Treiglo'r enw
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Treiglo'r enw
golyguOnid Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddylai hwn fod? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Blogdroed (sgwrs • cyfraniadau) 12:35, 15 Mehefin 2012
- Ia, siwr bod ti'n iawn. am newid rwan o rwan. --Ben Bore (sgwrs) 12:44, 15 Mehefin 2012 (UTC)
- "Cymdeithas Cerdd Dant" sy'n gywir gan fod "Cerdd Dant" yn uned, neu'n perthyn i'w gilydd (enw genidol), felly mae'n bosib mai "Cymdeithas Pêl-droed Cymru" sy'n fanwl gywir, gan fod "Pêl-droed Cymru" yn perthyn i'w gilydd fel uned. OND, dw i'n gweld mai "Cymdeithas Bêl-droed Cymru" (gyda threigliad) sy'n cael ei ddefnyddio gan y gymdeithas ei hun a gan Golwg360! Felly nes bod na ramadegwr gwell na fi yn bwrw'i farn, yna cytunaf! "Cymdeithas Peldroed Cymru" sydd gan y BBC yma ond gyda'r treigliad yn fama! Ond ddylem ni ddim defnyddio'r BBC fel y gair olaf ar gywirdeb iaith! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:35, 18 Mai 2014 (UTC)