Sgwrs:Eglwys Sant Saeran

Sylw diweddaraf: 9 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Cristoff / Cristoffr / Cristoffer

Cristoff / Cristoffr / Cristoffer

golygu

Ar hyn o bryd mae'r erthygl yn cyfeirio at y sant hwn fel "Sant Christopher (neu 'Cristoff')". Am Christopher, mae Geiriadur yr Academi yn cynnig "Cristoff[e]r", ac yn y gyfrol berthnasol o Diwydiant Gweledol Cymru gan Peter Lord, "Cristoffer" yw'r ffurf a ddefnyddir. Ar y sail hon rwy'n bwriadu ysgrifennu erthygl amdano dal y teitl Cristoffer, oni bai bod gwrthwynebiad. Ond beth yw'r dystiolaeth am y furf "Cristoff" – ydy hyn yn ffurf leol yn Sir Ddinbych, neu cam-deipiad? Ham II (sgwrs) 09:36, 20 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb

Rwy wedi newid "Cristoff" i "Cristoffer" ond os oes tystiolaeth am y ffurf arall byddwn i'n hapus i'w newid yn ôl. Ham II (sgwrs) 07:43, 23 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb
Fe'i defnyddiwyd gan Feirdd yr Uchelwyr, ond efallai nid mor boblogaidd heddiw! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:20, 23 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb
Gwych, dyna'r union fath o beth oeddwn i'n gobeithio clywed! A diolch am ychwanegu'r wybodaeth at Cristoffer. Dyna gyfraniad Cymraeg go iawn at gynnwys "swm gwybodaeth y ddynoliaeth" ar Wicipedia. Does dim pwynt mewn bod yn glôn o wyddoniadur mewn unrhyw iaith arall! Ham II (sgwrs) 07:16, 25 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb
Cytuno'n llwyr! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:59, 25 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Eglwys Sant Saeran".