Sgwrs:Euscareg

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

" Mater o barch at ein cyd-cenedlau bychain yw defnyddio fersiwn seiliedig ar ei dewis nhw o enw. ee clywir 'Cumrish' gan siaradwyr Gaeleg a Cernyweg am Kernewek, iaith Cernyw."

Fuaswn i ddim yn anghytuno, cyn belled ag y gellir dangos fod "Euscareg" yn cael ei ddefnyddio yn Gymraeg, ond barn bersonol yw'r frawddeg yma. Hefyd, mae erthygl "Basgeg" eisoes yn bod, a does dim angen dwy. Fe ellid ail-enwi yr erthygl "Basgeg" i "Euscareg" os ceir cytundeb yn dilyn trafodaeth. Rhion 07:11, 24 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Rwy'n meddwl y dylai'r erthygl "Basgeg" cael ei gadael fel ag y mae, ac rhaid i "Euscareg" fod yn ail-gyfeiriad ati, os hyd yn oed yw'n bodoli o gwbl.
  • Dwi ddim yn gweld tystiolaeth ar y we bod unrhywun yn defnyddio'r gair "Euscareg".
  • Mae gennym ni eisoes erthygl. Ni ddylai bod dwy.
  • Mae'r trawslythyreniad i'r Gymraeg yn amheus - pam newid y "k" yn "Euskara" i "c", heb newid yr "u" i "w" hefyd?
  • Ddylai erthyglau ddim bod yn ysgrifenedig yn y person cyntaf - "ein cyd-cenedlau bychain". Pwy sy'n dweud bod pob darllenwr yn dod o Gymru (neu o genedl fechan arall)?
  • Barn bersonol yw hi, fel mae Rhion yn dweud.
Os mae unrhyw cynnwys yr erthygl hon nad yw'n bodoli eisoes yn Basgeg, heb gyfrif y farn bersonol, rydym ni'n gallu ei gopïo i'r erthygl honno.
Luke 07:28, 24 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Os oes gwirionedd i'r honiad:
Amrywiad Cymraeg ar "Basgeg" yn dod o'r gair Llydaweg "Euskareg' sef Euskera yw'r enw 'Euscareg' am Fasgeg.
yna gallwn ychwnegu hwn at yr erthygl Basgeg ac ailgyfeirio Euscareg yno fel awgrrymodd Luke. Hefyd mae'r erthgl yma'n cymusgu rhwng Gwlad y Basg (y genedl gyfan) ac Euskadi (y rhanbarth weinyddol)--Ben Bore 09:37, 24 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Basg a Basgeg yw'r ddau enw cywir ar gyfer yr iaith yn Gymraeg. Sanddef 11:27, 24 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Ac ar ben hynny mae gennym ni erthygl ar yr iaith hon yn barod; Cymraeg ydy iaith y Wicipedia. Wedi ailgyfeirio hyn at Basgeg. Anatiomaros 21:15, 25 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
ON Pe baem yn dewis cael "Ewscareg/Ewsgareg/Euscareg" yn lle'r enw Cymraeg cyfarwydd Basgeg, a hynny er mwyn dangos "[p]arch at ein cyd-cenedlau bychain", buasai'n ofynnol i ni ddilyn yr un polisi gyda'r ieithoedd llai eraill a chael ffurfiau artiffisial gwirion fel "Bresoneg" yn lle Llydaweg! A lle mae tynnu'r llinell? Pam nad dangos parch at bob iaith arall (a dim o gwbl i'r Gymraeg ei hun) a chael 'English' a 'Deutsch' yn lle 'Saesneg' ac 'Almaeneg'? Anatiomaros 21:49, 25 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Hoffwn dynnu sylw at Sgwrs:Patxi Zubizarreta hefyd. Anatiomaros 19:53, 1 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Euscareg".