Sgwrs:Evan Rowland Jones

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Untitled


Untitled golygu

Y Drafft yw gorfodaeth filwrol! Terfysgoedd Drafft oedd gwrthwynebiad i'r fath orfodaeth; testun erthygl? Ond dyna broblem y Gymraeg, hyn a hyn o gyfranwyr a gormod o ysgyfarnogod! Byddwn wrth fy modd rhoi eglurhad mewn erthygl, ond mae 'na Siryfion, Rhaglawiaid, Aelodau Seneddol yn disgwyl fy sylw! AlwynapHuw (sgwrs) 09:13, 7 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Felly bu hi erioed: 'Does dim digon yn y frwydr i gwbwlhau y gwaith' chwedl Dafydd Iwan. Diddorol Alwyn, chlywais i rioed am y 'terfysgoedd drafft' o'r blaen - lle gwyntog iawn mae'n rhaid! Mae dy erthyglau'n wych, paid a hel sgwarnogod - dal i fynd! 'Mae na haf - ond ei mofyn' medde Gerallt, a daw'r gweddill atom, un dydd. Ymlaen, mewn ffydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:54, 7 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Sylwi dy fod wedi newid <.ref>Mae son amdanynt i <.ref>Ceir sôn amdanynt. Mae a son (heb do bach) sydd yn yr erthygl y cyfeirir ati. Cyn i JMJ safoni'r Gymraeg i ddefnydd Môn yn y 1920au doedd dim safonau Cymraeg. A ddylid "cywiro" teitlau erthyglau Cymraeg a dyfyniadau o'r fath erthyglau, cyn y 1920au, i Gymraeg safonol cyfoes, neu gadw'n driw i'r gwreiddiol?AlwynapHuw (sgwrs) 06:52, 9 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Does dim angen ei newid, felly, cyn belled a'i bod yn amlwg mai dyfyniad / teitl yr erthygl wreiddiol ydyw. I'r perwyl yma - dw i wedi rhoi dyfynodau o boptu'r cymal. Gobeithio fod hyn yn iawn; ffordd arall, fyddai cychwyn gyda'r cylchgrawn / papur, ac yna'r erthygl, ac yna rhan o'r erthygl; a chloi efo'r dyddiad. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:27, 9 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Evan Rowland Jones".