Sgwrs:Ffederasiwn Rwsia

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Adda'r Yw in topic Enw'r erthygl

Enw'r erthygl golygu

Should this be moved to Rwsia? Paul-L 09:42, 21 Ebrill 2007 (UTC)Ateb

There's a strong argument for doing so. Most of the other wikis have 'Rwsia' alone and wikipedia naming guidelines suggest using the most common and familiar form. The only objection is that the Federation is more than the historical Russia and includes states and territories that are autonomous, some of them with historical claims to national status. On the whole though I think Rwsia is preferable (there's a re-direct to sort out as well). Anatiomaros 14:44, 21 Ebrill 2007 (UTC)Ateb
Yes, Rwsia is the short form; I don't know why the article was titled with the long name. Anyone else agree with moving the page? Paul-L 11:11, 22 Ebrill 2007 (UTC)Ateb
No, yn fy marn bach i. Mae yna anfanteision i newid y teitl, gan fod yna genedloedd gyda'u hieithoedd a'u diwylliannau eu hunain (e.e. Chechnya, sawl rhan o Siberia) o fewn y Ffederasiwn. Tydi Siberia ddim yn ran o'r Rwsia daearyddol/hanesyddol chwaith. Mantais yr enw 'Ffederasiwn Rwsia' yw ei fod yn cyfleu'n glir mai gwladwriaeth, ac nid cenedl sydd dan sylw. Gallai galw'r holl diriogaeth yn 'Rwsia' roi'r argraff mae un cenedl ydyw. Fel cymro, tydw i ddim yn hoff o bobl yn fy nghalw i'n brydeiniwr, ac mae'n debyg fe fyddai ymateb pobl o genedloedd lleiafrifol Rwsia'n teimlo rhywbeth tebyg am gael eu calw'n Rwsiaid (os Rwsia yw'r gwlad, mae'n dilyn mai Rwsiaid yw'r bobl). Bysech chi ddim yn symyd yn symud yr erthygl ar y Deyrnas Unedig i Brydain neu Lloegr gobeithio? Mi wn fod y teitl presennol mymryn yn hirwyntog, ond mae'r gair Rwsia ar frig y tudalen ac yn ailgyfeirio yma yn barod.--Llygad Ebrill 17:32, 22 Ebrill 2007 (UTC)Ateb
Dwi'n gweld y ddadl ac yn cydymdeimlo, wrth gwrs. Efallai yr ateb gorau ydyw cael erthygl am y ffederasiwn fel gwladwriaeth gyfoes ac un arall am Rwsia fel endid hanesyddol. Mae 'Rwsia' yn haeddu erthygl dan yr enw hwnnw 'run fath ag y mae Chechnya a rhannau eraill o'r ffederasiwn bresennol hefyd. (Mae hynny'n golygu lot iawn o waith i griw bach fel ni, ond cwestiwn arall 'di hynny). Anatiomaros 21:33, 22 Ebrill 2007 (UTC)Ateb
Roedden i wedi synnu tipyn bod gan y Wikipedia Saesneg dwy erthygl (un wleidyddol, un ddiwylliannol/hanesyddol/daearyddol) ar gyfer rhai gwledydd, e.e. Tsieina, Awstralia, nifer o erthyglau ar derminoleg Ynysoedd Prydain, ond dim ond un erthygl ar gyfer Rwsia. Dwi'n cytuno'n llwyr bod Rwsia yn ffederasiwn o nifer o genhedloedd ac dwi o blaid cadw Ffederasiwn Rwsia ar gyfer y wladwriaeth bresennol, ac ysgrifennu erthygl ar y genedl orllewinol, Ewropeaidd ar Rwsia. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:13, 22 Ebrill 2007 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ffederasiwn Rwsia".