Prydain Fawr

(Ailgyfeiriad o Brydain)

Mae Prydain Fawr yn ynys oddi ar arfordir gogledd gorllewinol Ewrop. Hi ydyw'r fwyaf o'r Ynysoedd Prydeinig. Mae tair cenedl o fewn yr ynys, sef Cymru, Yr Alban a Lloegr (mae rhai pobl yn ystyried Cernyw yn bedwaredd genedl nas cydnabyddir yn swyddogol). Yn wleidyddol, ystyrir bod yr ynysoedd llai sydd yn rhannau o Gymru, Lloegr, neu'r Alban, fel Ynys Enlli er enghraifft, yn rhannau o Brydain Fawr hefyd. Llywodraethir yr ynys gan senedd yn Llundain fel rhan o wladwriaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, er bod mesur o hunanlywodraeth gan Gymru a'r Alban erbyn hyn. Sylwer nad ydyw talaith Gogledd Iwerddon yn rhan o Brydain Fawr.

'Prydain Fawr' yn Ewrop
Map o Geographia gan Ptolemi o'r Ail ganrif, argraffwyd yn 1482 yn Ulm. Cedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gweler hefyd Prydain.

Hanes yr enw

golygu

Mae'r enw ei hun yn bur ddiweddar. Ynys Prydain neu Brydain oedd yr enw gwreiddiol ac fe'i gelwid felly am ei bod yn gartref i'r Brythoniaid (er bod lle i ddadlau fod yr enw Brythoneg Prydein a'r enw Goideleg cyfystyr Cruithenn yn cyfeirio at y Pictiaid yn wreiddiol). Britannia oedd enw'r Rhufeiniaid ar yr ynys, yn seiliedig ar y gair Brythoneg.

Dan bwysau'r goresgynwyr o'r Almaen, sef y Sacsoniaid, yr Eingl a llwythi Germanaidd eraill, ymfudodd nifer o Frythoniaid rhannau deheuol yr ynys dros y môr i Lydaw. Mae'r enw Llydaweg Breizh (a'r Ffrangeg Bretagne) yn adlewyrchu'r mudo hwnnw. Gair arall am "Brydain" yw Breizh/Bretagne ac felly, er mwyn gwahaniaethu rhwng Llydaw ac Ynys Prydain dechreuodd yr arfer o alw Prydain yn "Brydain Fawr". Mae'n debyg mai cyfieithiad o'r Ffrangeg Grande Bretagne ydyw'r Saesneg Great Britain.

Nid oes unrhyw arlliw gwleidyddol i'r enw yn wreiddiol, felly. Doedd Prydain Fawr ddim yn wlad a doedd yr ansoddair 'mawr' ddim yn golygu "great" chwaith. Dim ond yn ddiweddarach, gyda thwf yr Ymerodraeth Brydeinig, y daeth yr arlliw gwleidyddol i fod.

Diddorol nodi hefyd mai "Prydain Fach" yw ystyr yr enw Gwyddeleg am Gymru, sef An Bhreatain Bheag (y tir llai oedd dal ym meddiant y Brythoniaid ar ôl i'r Saeson gipio'r hyn a elwir yn Lloegr heddiw) a "Prydain" yw ystyr yr enw Llydaweg am Lydaw, sef Breizh.

Gwledydd Prydain

golygu
Gweler hefyd: Prydeindod

Yn y Chwedegau bathwyd y term hwn fel cywiriad gwleidyddol ac fe'i defnyddir ar lafar a gan y cyfryngau torfol yn eithaf rheolaidd bellach. Mae'n dwyshau'r ymdeimlad hwnnw fod Cymru yn wlad, ac nid yn rhan o wlad Prydain (sef y DU). Gweler "Y Dystiolaeth Brydeinig"[1] gan Owain Owain yn Y Faner, 21/10/1965 ac athroniaeth ddiweddarach Yr Athro J. R. Jones yn ei gyfrol 'Prydeindod'.

Ceir peth amwysedd yn y defnydd a wneir o'r enw "Gwledydd Prydain". I rai mae'n golygu tair gwlad Prydain (Fawr), sef Yr Alban, Cymru a Lloegr, yn unig ond fe'i defnyddir hefyd fel enw amgen am y DU (a gamenwir yn 'Brydain' yn aml); ond dydy Prydain ddim yn cynnwys Gogledd Iwerddon nac yn ddaearyddol – am ei bod yn rhan o ynys Iwerddon – nac yn gyfansoddiadol o fewn y DU (gweler uchod).

Cyfeiriadau

golygu
  1. [1]

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am Prydain Fawr
yn Wiciadur.