Sgwrs:Ivor Churchill Guest

Latest comment: 8 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Untitled


@Llywelyn2000: Methu deallt y sylw (dilyn patrwm Gwyddoniadur Cymru gan nad enw ydyw). Y drefn arferol yw rhoi llythrennau mawr i deitlau, Y Frenhines Victoria, Y Prifardd Myrddin ap Dafydd, Y Parchedig Dr Tudur Jones, Yr Arglwydd Roberts o Landudno, Ledi Megan Lloyd George, Mr Wil Smith Mrs Jones drws nesa, ac ati ac Is-iarll 1af Wimborne AlwynapHuw (sgwrs) 07:00, 23 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Untitled golygu

Mae pob un o'r enghreifftiau ti wedi eu rhoi yn hollol gywir; dim problem yma. OND mae'r Gwyddoniadur yn rhoi 'i' fach (ayb) pan gyfieithir y swydd i'r Gymraeg, disgrifiad o waith y person ydyw, felly, ac nid teitl swyddogol ee Ivor Churchill Guest, is-iarll 1af Wimborne. Wnes i ddim sylwi ar hyn tan i mi ddechrau sgwennu am y Tuduriaid yn yr Hydref, a chopio trefn y Gwyddoniadur Cymreig. ee
tud 497 - Henry de Lacy, iarll Lincoln (yn hytrach na 'Iarll Lincoln')
tud 820 - 'Arweiniodd... at goroni dug York yn Edward IV'
tud 820 - 'William Herbert, iarll Pembroke'
tud 994 - 'Sylfaenydd y teulu oedd Edmund dug York'. ayb
Felly hefyd John Bwlchllan yn Hanes Cymru:
tud 206 - 'Richard Neville, iarll Warwick'
tud 207 - 'Margaret, iarlles Richmond' a 'Francis, dug Llydaw'
tud 201 - 'Siasbar, iarll Pembroke'
Fel y gweli hefyd, mae'r ddau feibil hanesyddol uchod hefyd yn defnyddio'r lleoliad gwreiddiol (hy Oxford, ac nid Rhydychen; Pembroke ac nid Penfro). Mae nhw hefyd yn defnyddio llythyren fach ar rai teitlau eraill ee 'Hanes Cymru' tud 260 - 'Lewis Owen, siryf Meirionnydd'. Ond 'yr Arglwydd Nelson' (tud 859 Gwyddon Cymr)! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:00, 23 Mawrth 2016 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Tu hwnt i'm ddirnad i, ond methu gweld erthygl gwyddoniadur, na phapur newydd, yn cyfeirio at dywysog Cymru, dug Caeredin ac iarll Cambridge. Gan fod teitlau'r cyffredin Mr Mrs Dr Parch efo llythrennau mawr, onid oes drewdod o "dueddiad gwleidyddol" yn y ffynonellau sy'n awgrymu bychanu Iarll ac ati? AlwynapHuw (sgwrs) 07:15, 25 Mawrth 2016 (UTC)Ateb
Edrych arno fel ansoddair yn hytrach nag enw. Beth am drydaru Peredur i'w holi? Ac efallai ei bod hi'n hen bryd i ni roi llythyren fach yn y gweddill ee tywysog Cymru, dug Caeredin a'u teip! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:36, 25 Mawrth 2016 (UTC)Ateb
Llythyren fach hefyd sydd gan y Bywgraffiadur; gweler '4ydd arglwydd Kenyon' ar y dudalen yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:46, 26 Mawrth 2016 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ivor Churchill Guest".