Sgwrs:Pont Trefechan

Latest comment: 11 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Fe sylwch fy mod wedi rhoi manylion personol am nifer o'r rhai oedd ym mhrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith naill ai wrth y Swyddfa Bost a/neu Pont Trefechan. Mai y manylion hyn o fy adnabyddiaeth i fy hun ac felly nid oes ffynhonell gennyf. Fel arall efallai y byddai'r masnylion yn mynd ar goll. Rwyf wedi rhoi nodyn ar waelod y rhestr. Ydy hyn yn dderbyniol? Dyfrig (sgwrs) 01:27, 14 Ionawr 2013 (UTC)Ateb

Oes! Mae gen ti'r hawl! Mae gennym yr hawl ar Wicipedia cy i greu unrhyw reol rydan ni ei angen. Gallem gopio arfer da o unrhyw Wici rall, ond yn y diwedd mae'r hawl gennym i greu ein rheolau ein hunain. Er enghraifft, mae gennym nifer o erthyglau am gwmnïau busnes bychan na fyddent yn gweld golau dydd ar en. Gyda llaw - wyddwn i ddim tan rwan mai ti yw Dyfrig Thomas! Sefydlydd Siop y Werin ayb! Roeddet o flaen dy amser ac wedi cyfrannu'n helaeth at greu'r Gymru Gymraeg bresennol. Ac roeddet ar y bont! Wel, wel! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:50, 14 Ionawr 2013 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Pont Trefechan".