Pont Trefechan

pont ffordd yn Aberystwyth, Ceredigion

Pont yn Aberystwyth, Ceredigion, yw Pont Trefechan (Cyfeirnod OS: SN 5827 8133). Llifa Afon Rheidol oddi tani ac mae hi'n dwyn y briffordd A487 dros yr afon honno.

Pont Trefechan
Mathpont ffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr0.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.411433°N 4.085094°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Protest Cymdeithas yr Iaith golygu

Mae ganddi le pwysig yn hanes yr ymgyrchu i ennill statws i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Ar 2 Chwefror 1963 gwelwyd protestiadau torfol cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg pan ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan gan fyfyrwyr o golegau Aberystwyth a Bangor yn bennaf. Roedd hyn flwyddyn wedi darlith Tynged yr Iaith Saunders Lewis a ddarlledwyd gan y BBC ar 13 Chwefror 1962. Yn ystod y brotest, awgrymwyd fod pawb yn eistedd ar y briffordd sy'n rhedeg dros bont Trefechan i atal y traffic gan feddwl y byddai'n rhaid i'r heddlu wedyn eu harestio. Roedd anghytuno ynglŷn â hyn ond yn y diwedd eisteddodd nifer sylweddol o'r myfyrwyr ar y bont.

Y syniad gwreiddiol oedd plastro'r Swyddfa Bost yn y dref gyda phosteri gan feddwl y byddai'r heddlu yn rhoi gwys iddynt a hwythau wedyn yn mynnu cael gwŷs Gymraeg. Ond anwybyddodd yr heddlu yr holl beth. Aethant yn ôl at y Swyddfa Gartref (yn Llundain) i ymgynghori ar y cam nesaf.

 
Y brotest gyntaf
Y brotest gyntaf 

Rhestr o'r protestwyr golygu

  • Guto ap Gwent, cyfreithiwr o Abertawe[1][2][3]
  • Huw Carrod
  • Peter Cross
  • Menna Dafydd
  • Anna Daniel
  • Enid Davies, priod Robat Gruffudd yn ddiweddarach
  • Megan Kitchener Davies, sefydlydd Siop y Pethe (gyda'i gŵr Gwilym Tudur)
  • Geraint Eckley
  • Rodric Evans
  • Catrin Gapper
  • Gareth Gregory
  • Robat Gruffudd, sefydlydd Gwasg Y Lolfa
  • Ann Eirwen Gruffydd
  • Aled Gwyn, un o fois Parc Nest, gweinidog, cyflwynydd ar Radio Cymru.
  • Joy Harries, o Bontyberem, athrawes Gymraeg yn Ysgol Cwm Gwendraeth ac Ysgol Maes yr Yrfa
  • Edgar Humphreys
  • Rachael James, o Sir Benfro, cyfreithwraig
  • Neil Jenkins
  • Eurion John, o Lanelli, masnachwr
  • Hafwen John, o Sir Benfro yn wreiddiol, athrawes Gymraeg yn Ysgol Y Berwyn, Y Bala
  • Morwen John
  • Angharad Jones
  • Ann Eleri Jones
  • Anne Morries Jones
  • Beti Jones, priod Tegwyn Jones yn ddiweddarach
  • Eric Jones
  • Geraint Jones (Twm)
  • Gwyneth Jones
  • John Clifford Jones
  • Llinos Jones, bellach yn briod â Cynog Dafis cyn Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad
  • Penri Jones
  • Tegwyn Jones
  • Tomos Prys Jones
  • Peter Meazey, sefydlydd Siop y Triban, Wyndham Arcade, Caerdydd, tua 1970
  • Ruth Meredith, priod Meic Stephens yn ddiweddarach
  • Giovanni Miseroti
  • Mair Owen
  • Rhiannon Price
  • Dennis Roberts
  • Gareth Roberts, o Dreffynnon, Cynghorydd Sir y Fflint (Plaid Cymru)
  • Rhiannon Silyn Roberts
  • Meic Stephens, llenor, golygydd swyddog Cyngor y Celfyddydau ac athro prifysgol
  • Tegwen Roberts
  • Gwyneth Rhys
  • Dyfrig Thomas, sefydlydd Siop y Werin (Llanelli) 1970 a pherchenog Siop Tŷ Tawe, Abertawe 1988
  • Gwilym Tudur, sefydlydd Siop y Pethe, Aberystwyth (gyda'i wraig Megan Kitchener Davies)
  • Elenid Williams
  • Gwyneth Wiliam
  • Gruffydd Aled Williams, pennaeth Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth
  • Menna Williams

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Td 76 Hunangofiant Meic Stephens Cofnodion, Y Lolfa, 2012
  2. Y Faner Newydd
  3. Manylion personol gan Dyfrig Thomas am y bobl yn y brotest. Adnabyddiaeth bersonol.