Sgwrs:Rhestr capeli Cymru

Latest comment: 8 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Dw i'n siwr fod 'na fas-data yn rhywle o holl gapeli Cymru; ond er chwilio am tua 15 munud dim ond hwn fedra i ei ffindio - rhestr o holl eglwysi Cymru!] O gael hyd i fas-data gellir wedyn gwneud 'mail-merge' a'i droi'n erthygl / llythyr i'w bastio (copi a phastio) i fewn i Wicipedia. Byddai'n adnodd gwerthfawr iawn! Llywelyn2000 05:12, 14 Mawrth 2011 (UTC)Ateb

Ydy Cytûn yn fudiad ar gyfer capeli yn ogystal ag eglwysi? Tydy hyn ddim yn ateb dy gwestiwn, ond ar wefan yr Annibynwyr, mae rhestr o 'eglwysi' ar y chwith. Mae modd chwilota capeli'r bedyddwyr yn ôl sir. Mae digonedd yn mynd i gapeli'r Methodisitiaid mae'n amlwg, ochos wela i ddim rhest o gapeli ar eu gwefan nhw! Er, dyma rai ohonynt.--Ben Bore 09:21, 14 Mawrth 2011 (UTC)Ateb
Newydd fod yn pori drwy wefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru (as you do), ac rwyf wedi cyffroi'n llwyr gan ei fod yn amlwg bod ganddynt gronfa data o holl gapeli/eglwysi yn cynnwys cyfeirnodau map a llun (wele'r capel mynychais fel plentyn). Mater bach iawn fyddai trosglwyddo'r wybodaeth yn defnyddio'r dull mae Llywelyn yn son amdano uchod. Oes rhywun yn aelod?
Prosiect gwych, ond un enfawr i restri pob un! Ai dyma'r fath o beth gallasem ofyn cymorth yr ysgolion cynradd am gymorth ei greu? Pe bai modd danfon holiadur ar ffurf tudalenau egin Wici i bob ysgol a gofyn iddynt eu llenwi a thynnu llun o bob capel / cyn gapel yn eu talgyllch ac i'w uwch lwytho i'r safwe; byddai hynny'n creu miloedd o dudalennau newydd, cyfoeth o wybodaeth sylfaenol ac yn creu ymwybyddiaeth amhrisiadwy am fodolaeth ein parth bach ni o'r we; ac yn wers mewn casglu tystiolaeth, hanes lleol, technoleg gwybodaeth, addysg grefyddol, Y Gymraeg ac ati i'r plantos AlwynapHuw (sgwrs) 01:47, 29 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Syniad ardderchog, Alwyn. Man cychwyn yn unig oedd y dudalen hon i fod, dwi'n meddwl. Bydd rhaid rhestru'r capeli ar dudalennau newydd yn nes ymlaen, fesul sir, os cawn ni ddigon. Mae nifer o luniau ar gomin yn barod, yn y categori 'Category:Chapels in Wales', ond does dim llawer o drefn arnyn nhw ar hyn o bryd (mae rhai dan 'Churches...' hefyd. Tasg anferth, yn enwedig ac ystyried bod llawer o'r capeli pwysicaf wedi cael eu troi yn dai ayyb, gwaetha'r modd. Mae gen i restr o'r capeli Methodus ond mewn hen lyfr (Yr Eglwys Fethodistaidd, Gwasg Gomer, 1980) gyda dyddiadau ayyb ond erbyn hyn sut mae gwybod os ydyn nhw'n dal yn cael eu defnyddio fel capeli? Bydd angen ffynnonellau cyfoes, ar-lein os posibl. Anatiomaros (sgwrs) 02:08, 29 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
O ran creu restr, dyw'r ffaith bod y capel bellach yn garej neu yn siop gwerthu cac i dwristiaid, wedi troi'n dŷ hâf neu wedi ei ddymchwel dim yn bwysig. Daw'r manion hynny'n bwysig o droi'r rhestr o goch i lâs!AlwynapHuw (sgwrs) 02:36, 29 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Rwyt ti'n iawn, wrth gwrs. Ac eto bydd rhaid gwybod a ydyw'n dal yn cael ei ddefnyddio fel capel heddiw - "Capel yn Llan-X yw/oedd Capel Y...". Digon am heno, beth bynnag, cawn syniadau newydd gan gyfranwyr eraill fory, efallai. Nos da! Anatiomaros (sgwrs) 02:42, 29 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
ON Dylem ni ystyried prosiect tebyg ar gyfer eglwysi Cymru hefyd (rhywbryd!), yn enwedig y rhai hynafol sydd â chymiant o le yn ein hanes. Anatiomaros (sgwrs) 02:18, 29 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Creu categori uwch ar gyfer llefydd o addoliad? Lle i nodi Eglwysi, Neuaddau Teyrnas, Mosg, Teml, safleodd o bwys i grefyddau hynafol ac ati?AlwynapHuw (sgwrs) 02:41, 29 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Ambell i ffynhonnell ar lein:

AlwynapHuw (sgwrs) 02:24, 29 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Awgrymu symud i Wicibrosiect adeiladau, gan fod y drafodaeth wedi dod i ben? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:51, 17 Chwefror 2016 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Rhestr capeli Cymru".