Sgwrs:Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Ariannin

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Pam ein bod yn newid Yr Ariannin i yr Ariannin? Beth yw'r rhesymeg a'r cynsail ogydd? Blogdroed (sgwrs) 15:10, 26 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

Mae gennym erthyglau o'r enw Daearyddiaeth yr Ariannin, Gwleidyddiaeth yr Ariannin a Hanes yr Ariannin, a sylwer hefyd ar enwau'r is-gategorïau fan hyn. Ham (sgwrs) 14:55, 29 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Y prif reswm ydy "achos dyna yw'r arfer", mae'n debyg, h.y. dyna'r arddull safonol sy'n cael ei dilyn fel rheol. Mae'n edrych yn daclusach o lawer hefyd felly mae'n debyg bod rhesymau esthetig yn rhan o'r esboniad. Yr unig beth sy gan Peter Wynn Thomas i'w ddweud amdano yn ei gyfrol Gramadeg y Gymraeg, hyd y gwelaf i, yw "Llythyren fach a ddefnyddir fel rheol wrth ysgrifennu'r fannod pan fydd yn elfen gyntaf mewn enw lle a heb ddod ar ddechrau brawddeg, e.e. yn y Rhyl." (tud. 751). Confensiwn felly. Anatiomaros (sgwrs) 01:36, 4 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Oes gwerth ychwanegu'r confensiwn hwn at Wicipedia:Arddull? Ham II (sgwrs) 11:38, 4 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Oes. Cytuno. Diolch am gynnig Ham! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:33, 9 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Ia wir ;-) Anatiomaros (sgwrs) 01:03, 10 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Mae'n rhaid i mi ddweud mod i'n anghytuno gyda'r gosodiad Y prif reswm ydy "achos dyna yw'r arfer - 'dyw Yr Alban, Yr Ariannin, Yr Almaen byth yn ymddangos gydag y fach pan yn 'sgwennu erthyglau chwaraeon - a dyna yw'r erthygl yma ... ac yn wir bwrdwn fy ngwestiwn wrth i mi greu erthyglau chwaraeon. Dwi'n credu fod yr Alban, yr Iseldiroedd ayyb yn edrych yn flêr o'u cymharu ag Yr Alban, Yr Iseldiroedd ayyb Blogdroed (sgwrs) 15:30, 10 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Chwiliais am enghreifftiau o'r defnydd mae Blogdroed yn sôn amdano a dyma oedd y peth cyntaf a welais i: [1]. Mae'r defnydd yn yr erthygl honno'n ddidorol iawn; dyma'r frawddeg gyntaf: "Mae Diego Maradona wedi dweud mai'r gêm gyfeillgar gyda'r Alban fis nesaf fydd ei gêm gyntaf fel rheolwr newydd Yr Ariannin". A dyma'r ail frawddeg: "Bu Maradona, capten tîm yr Ariannin enillodd Gwpan y Byd ym 1986, yn cynnal trafodaethau gyda Cymdeithas Bêl Droed y wlad." Hynny yw, dilynir y rheol a nodir gan Anatiomaros wrth sôn am "dîm [pêl-droed cenedlaethol] yr Ariannin", ond pan mae angen talfyrru i gyfeirio at y tîm wrth enw y wlad, yna ceir "Yr Ariannin". Mae hynny'n hollol synhwyrol yn fy marn i; ai dyna dylai'r rheol fod ar gyfer timau chwaraeon yn Wicipedia:Arddull? Ham II (sgwrs) 14:42, 12 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Andros o ddiddorol, a dyna'r gwahaniaeth wedi'i ddiffinio. A dyna fi wedi dysgu rhywbeth newydd! Diolch i'r ddau ohonoch. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:57, 31 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Ariannin".