Sgwrs:Wica/Archif

Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Xxglennxx ym mhwnc Hysbyseb i amldduwiaeth



Ffeithiau

Dwi'n meddwl mai braidd yn garedig ydy deud "Ni all geirwiredd gosodiadau Gardner gael eu profi nau'u gwrthbrofi'n annibynnol, fodd bynnag, ac mae'n bosibl na ddechreuodd diwinyddiaeth Wiccan gael ei greu tan yr 1920au." Mae pawb bron ar wahân i ddilynwyr dysgeidiaeth Gardner yn gweld yr wica a chrefyddau newydd-baganaidd eraill fel creadigaethau diweddar a'u bod yn seiliedig ar gymysgedd o hen draddodiadau a chredoau a dogn go helaeth o ramantiaeth a dychymyg: h.y. yr yn mor "ddilys" â thraddodiadau Gorsedd y Beirdd. Anatiomaros 00:11, 25 Ionawr 2009 (UTC)

Dim barn ar y foment; dwi ddim yn gwybod digon am y pwnc. Cyfieithu a chywir iaith wnes i hyd yma, cofia. Dwi wedi cychwyn darllen o gwmpas y pwnc am ryw hanner awr - gweler y ddolen allanol; mi wna i fwy o waith cartref fory. Newidi di o, unrhyw dro, gyfaill! Llywelyn2000 00:44, 25 Ionawr 2009 (UTC)
Dwi'n sylweddoli hynny, a diolch i ti am ymgymryd â'r gwaith. Mae'n siwr ei bod hi'n frwydr olygyddol ding-dong yn yr erthygl ar :en hefyd, gyda'r garfan newydd-baganaidd yn tueddu i fod yn llai na beirniadol yn eu hagwedd tuag at y dystiolaeth (o leia dyna ydy fy mhrofiad o weld rhai o'r cyfraniadau gan "neo-dderwyddon" i erthyglau fel Hu Gadarn). Dwi ddim yn arbenigwr chwaith; yr hen chwedlau a chredoau go iawn sydd o ddiddordeb i mi. Anatiomaros 01:21, 25 Ionawr 2009 (UTC)

Golygiadau diweddar

Dwi wedi gwrthdroi'r golygiadau diweddaraf gan y cyfrannwr IP ac adfer y golygiad diwygiedig gan Lywelyn a Ben Bore. Mae ychwanegu ffeithiau ac ehangu erthygl yn un peth, ond mae'n hollol annerbyniol i ddadwneud cywiriadau gramadegol dilys a olygodd lawer o waith a rhoi Cymraeg garbwl yn eu lle. Mae gwybodaeth ychwanegol yn y golygiadau hynny y gellid ei chynnwys yn yr erthyl pe bai'r gramadeg a mynegiant yn cael ei gwella. Doedd gennyf ddim dewis ond i wrthdroi'r cyfan am fod y newidiadau wedi'u cadw sawl gwaith a buasai'n golygu llawer iawn o waith i fynd trwy popeth i geisio: 1. adfer y cywiriadau gramadegol ayyb, 2. tacluso'r cyfraniadau ychwanegol a safoni iaith a thermau. Annerbyniol hefyd yn fy marn i yw defnyddio termau Saesneg (newidwyd 'pentacl' yn ôl i 'pentacle' a 'Wiciaid' i 'Wiccans', er enghraifft): mae'r Wicipedia yn wyddoniadur Cymraeg. Dwi'n sgwennu hyn yn rhannol er mwyn i'r cyfrannwr anhysbys ddeall pam wnes i hyn. Dwi'n gobeithio y bydd fo/hi yn ymateb a thrafod yma yn hytrach na gwneud yr un peth eto. Anatiomaros 17:06, 27 Ionawr 2009 (UTC)

Diloch i ti am fynd i'r drafferth o'i dacluso.
"Mae'r erthygl hon yn defnyddio sillafiad Saesneg Prydeinig (di-Rhydychen) yn unig, sefydlwyd per consensws ar y dudalen siarad (Wicipedia Saesneg)."
Wel, myn uffarn i!!--Ben Bore 20:19, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Hollol! (a diolch). ON Os ydy rhywun isio gwneud hynny, mae modd adfer yr ychwanegiadau (a'u diwygio achos mae'r iaith yn wallus) trwy gopio'r testun o'r 'gwahaniaeth' a nodir uchod. Mae'r erthygl ymhell o fod yn ddiduedd hefyd. Anatiomaros 20:31, 27 Ionawr 2009 (UTC)
Annwyl Wicciad. Diolch am dy gyfraniadau; mae'n erthygl dda. Mae hi'n agor llygaid pobl. Mae angen eu dweud hefyd. Ond cofia rhai pethau. Mae'r Gymraeg yn wahanol i'r Saesneg. Mae gennym ni orgraff ein hunain e.e. ni chaniateir o fewn Orgraff yr iaith ddyblu'r 'c'. Un 'c' sy'n cael ei ddweud, felly Wica ddylid ei sillafu - oni bai ein bod yn rhoi dyfynodau o'i gwmpas - sy'n ei wneud yn sillafiad dieithr ac estron. Sawl 'c' sydd yn yr iaith Japanaeg? Un wela i: ウィッカ. Cymer y gair 'pentacl' fel enghraifft arall: nid oes y fath beth yn y Gymraeg â 'e' tawel; mae 'pentacle' felly yn air Saesneg; y sillafiad Cymraeg cywir ydy 'pentacl'. Tydy hyn ddim yn bychanu na thynnu dim ar y gair. I'r gwrthwyneb, dwi'n credu y gall ein darllenwyr unieithu llawer mwy gyda'r Wiciaid fel hyn. Llywelyn2000 20:46, 27 Ionawr 2009 (UTC)

::::Ga i hefyd ategu yr hyn ddywedodd Anatiomaros uchod, drwy ofyn i ti drafod yma (yn 'Sgwrs') unrhyw bwyntiau y caret eu newid, mae'n bwysig fod y ffeithiau'n gywir, a'r erthygl yn lân ei hiaith ac mor ddiddorol a phosibl. Diolch i ti. Llywelyn2000 20:46, 27 Ionawr 2009 (UTC)

Yr Wyth Tymor

Rwyf wedi ysgrifennu'r paragraffau isod ar gyfer beth yr wyf yn meddwl dylai fod Yr Wyth Tymor. Yr wyf hefyd yn meddwl mai "Yr Wyth Gŵyl" y dylai hi bod, oherwydd ystyr y gair Gŵyl ydyw Sabbat, a dyna beth yr ydynt.

Mae'n croeso i chwi ei newid, neu ddadwneud y newidiadau, ond mae gan y paragraffau isod fyw o wybodaeth ynddynt, nag oes?

Diolch. Mi wna i weithio arnyn nhw rwan. Os y bydda i'n mynd yn groes i dy syniad di, jest dweud a mi allwn drafod y peth. A diolch, eto. Llywelyn2000 22:48, 28 Ionawr 2009 (UTC)

Yr Wyth Gŵyl

Ceir wyth gŵyl mewn llawer o grefyddau Paganaidd, gwyliau dathlu ydynt ac fe'u rhennir yn ddwy adran, sef Gwyliau'r Tân a Dyddiau Chwarter Croes. Y bedair ŵyl dân a ddathlir yw:

  • Gŵyl Fair, sydd ar 1 neu 2 o fis Chwefror. Gelwir hi hefyd yn Imbolc a Candlemass.
  • Calan Mai, sydd ar 30 o fis Ebrill neu 1 o fis Mai. Galwir hi hefyd Beltane.
  • Gŵyl Galan Awst, sydd ar 1 neu'r 2 o fis Awst. Galwir hi hefyd Lughnasadh a Lammas.
  • Nos Galan Gaeaf, sydd ar 31 o fis Hydref. Gelwir hi hefyd yn Samhain (All Hallow's Eve yn Saesneg).

Y bedair ŵyl chwater croes a ddathlir yw:

  • Gŵyl Ganol Gaeaf, neu Byrddydd Gaeaf neu Alban Arthan (Winter Solstice yn Saesneg neu Yule / Midwinter), a ddethlir fel arfer ar 20 neu 21 o fis Rhagfyr, sef fel arfer y dydd byrraf, ond gall fod rhwng y 19 a'r 23 o Ragfyr.
  • Gŵyl Ganol yr Haf, neu Hirddydd Haf neu Alban Hefin (Summer Solstice neu Midsummer yn Saesneg), a ddethlir fel arfer ar y 20 neu 21 o fis Mehefin, sef fel arfer y dydd hiraf, ond gall fod rhwng y 19 tan y 23 o fis Mehefin.
  • Cyhydnos y Gwanwyn neu Alban Eilir, sydd fel arfer ar 20 neu 21 o fis Mawrth pan fo oriau'r dydd ac oriau'r nos yn gydradd. Gall fod rhwng y 19 a'r 23 o fis Mawrth, a galwir hi hefyd yn Ostara a The Spring Equinox yn Saesneg.
  • Cyhydnos yr Hydref neu Alban Elfed, sydd fel arfer ar 20 neu 21 o fis Medi pan fo oriau'r dydd ac oriau'r nos yn gydradd. Gall fod rhwng y 19 a'r 23 o fis Medi, a galwir hi hefyd yn Mabon a The Autumn Equinox.
Damio! Mi rydw i newydd gywiro'r stwff uchod - yn y Sgwrs yma yn hytrach nag yn yr erthygl. F'ymddiheuriad i bawb! Copi a phastio amdani!Llywelyn2000 23:19, 28 Ionawr 2009 (UTC)
Paid poeni - dwi'n gweld rŵan. (Beth newidiest ti?)

Yr Wyth Tymor

Mae'n ddrwg gennyf, ond yn y lle cyntaf, doedd fy sylwadau ddim yn dangos yn beth ysgrifennais uchod. Dyma nhw, sydd yn cyd-fynd â'r testun uwchben: Rwyf wedi ysgrifennu'r paragraffau sydd ar y prif dudalen ar gyfer beth yr wyf yn meddwl dylai fod Yr Wyth Tymor. Yr wyf hefyd yn meddwl mai "Yr Wyth Gŵyl" y dylai hi bod, oherwydd ystyr y gair Gŵyl ydyw Sabbat, a dyna beth yr ydynt.

Mae'n croeso i chwi ei newid, neu ddadwneud y newidiadau, ond mae gan y paragraffau ar y prif dudalen fyw o wybodaeth ynddynt, nag oes?

Y Pentacl nid Y Pentagram

Mae'r pwnc hwn yn dal i gael ei gamddeall;

  • Mae'r Pentacl ydi'r symbol o'r Pentagram i fewn cylch.
  • Mae'r Pentagram ydi'r symbol y seren gyda phump pwynt, heb cylch, ac ar ei ben ei hun.

Dwi wedi newid y tesun o dan y llun o "Y Pentagl o fewn cylch: symbol o ffydd nifer o Wicciaid" i "Y Pentacl; symbol o ffydd nifer o Wiciaid."

Mae hynny'n cael ei egluro yn yr erthygl Pentagl, gobeithio. Anatiomaros 00:29, 29 Ionawr 2009 (UTC)

Cywiro am yr ail dro

Dyma rai pwyntiau sydd angen eu hystyried:

1. Bathwyd gair am aelod o’r Wica: Wiciad / Wiciaid?

Mi ddylwn ddeud hyn; Wicca - Wica, Wiccan - Wicaidd, Wiccans - Wiciaid

2. Dwi ddim yn deall y cymal yma:

yn gydamserol ei chariad a'i phlentyn

Dyna gred o Wica; mae Duwies yn rhoi genedigaeth i Dduw, ac wedyn y mae o'n ei chyflawni hi. Dyma'r Saesneg wreiddiol; "Some Wiccans see the Goddess as pre-eminent, since she contains and conceives all; the God is the spark of life and inspiration within her, simultaneously her lover and her child."

3. At bwy y cyfeirir yn y cymal yma:

ac y maent yn Dduw Corniog ac yn duwies Mam Fawr.

Y maent yn cyfeirio at eu hunain. Dydyn nhw ddim yn wynebweddau o ryw Dduw (neu Dduwies) arall. Dyma'r Saesneg wreiddiol; "According to Gerald Gardner, the gods of Wicca are prehistoric gods of the British Isles: a Horned God and a Great Mother goddess." Mae "ac y maent yn Dduw Corniog ac yn duwies Mam Fawr" ar goll yno.

4. Fedra i ddim deall hwn chwaith:

Ceir nesâd mwy amldduwiol sydd yn dala fod y duwiau a duwiesau yn wahanol

Rho fo yn y Saesneg gwreiddiol a mi wna i ei gyfieithu.

"A more polytheistic approach holds the various gods and goddesses to be separate and distinct entities in their own right."

5. Mae yma ormod o ail-ddweud yn y darn. Rhaid nol siswrn!

Dyna beth y roeddwn yn meddwl hefyd, ond dyna'n digwydd ar bob erthygl Wica ar Wicipedia

6. Pa mor wrthrychol ydy rhanna?

Llywelyn2000 00:04, 29 Ionawr 2009 (UTC)

Diolch am ymgymryd â'r gwaith mor gydwybodol ag arfer, Llywelyn. Y syniad gen i oedd cadw'r testun wedi'i guddio am rwan er mwyn ei gywirio yn gyntaf, fel wnes i nodi uchod, ond ta' waeth.
Ambell bwynt bach sydyn. Dwi'n meddwl fod angen egluro fod y Gwyliau yn tarddu o draddodiadau Celtaidd (yn achos y gwyliau Calan; daethant yn rhan o galendr yr eglwys hefyd, dan enwau newydd) a gwyliau'r "flwyddyn heulog" (solar year). H.y. dydyn nhw ddim yn perthyn i Wica yn unig. Hefyd, oes angen yr enwau Saesneg? Mae Samhain ac ati yn enwau Gwyddeleg a dylid nodi hynny hefyd efallai. Mae rhai o'r enwau amgen fel 'Mabon' ac 'Alban Hefin' yn tarddu o feddwl toreithiog yr hen Iolo hefyd, fel y gwyddost. Anatiomaros 00:12, 29 Ionawr 2009 (UTC)
Cytuno'n llwyr... ond nid heno! Llywelyn2000 00:20, 29 Ionawr 2009 (UTC)
Dwi'n cytuno, ond dwi hefyd yn meddwl bod angen arnom ddefnyddio'r enwau Saesneg ar gyfer y Gwyliau, oherwydd na fydd bron mwyaf o ddarllenwyr (sydd yn Wiciadd hefyd) deall yr enwau yn Gymraeg, yn fy marn i.

Hei Mr Wiciad, ara deg!

Rwyt ti'n llwytho gormod o waith arnom ni - yn rhy sydyn. Gad i ni gywiro'r hyn sydd yno yn gyntaf cyn llwytho chwaneg! Diolch Llywelyn2000 00:44, 29 Ionawr 2009 (UTC)

Cytuno gant y cant. Mae hyn yn annheg ar bawb. Ac ar ôl i mi fynd ati yn ofalus i roi'r testun newydd yn ôl yn yr erthygl - ond wedi'i guddio dros dro er mwyn ei olygu a'i safoni (gwaith 20 munud hefyd!) - cafodd ei roi yn ôl yn yr erthygl weladwy gan Wiccan1, er gwaethaf y nodyn amlwg wnes i adael yno iddo weld, heb newid dim arno. Dim chwaneg am rwan, os gwelwch yn dda: dydym ni ddim yn beiriannau iaith ac mae gennym ni i gyd bethau eraill i'w wneud yma hefyd. Anatiomaros 22:18, 29 Ionawr 2009 (UTC)

Hei Wicciad 1... ara deg am yr ail waith.

Os ceisir rhoi Cymraeg mor , mor wallus a hyn ar Wici, oni ddylem gloi'r erthygl fel ag y mae, gan dderbyn trafodaeth yn unig (yma)? Mae'n mynd a llawer o amser, ac mae'r erthygl, mi gredaf yn ddigon hir... ar hyn o bryd. Llywelyn2000 01:24, 12 Chwefror 2009 (UTC)

Byddwn i o blaid cloi'r erthygl dros dro. Rwyt ti ac eraill wedi gofyn yn gwrtias i'r cyfnwr bwyllo ac mae o hi wedi dewis anwybyddu'r cais.--Ben Bore 08:56, 12 Chwefror 2009 (UTC)
Cytuno'n llwyr. Dwi wedi gofyn, wedi esbonio, wedi ymbilio, ac i ddim pwrpas. Un rhybudd olaf, felly, ac os digwyddith eto fydd dim dewis ond i gloi'r erthygl dros dro. Anatiomaros 19:33, 12 Chwefror 2009 (UTC)
Diolch. Llywelyn2000 08:50, 13 Chwefror 2009 (UTC)

cymariaethau dadleuol

Am http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Wica&diff=660589&oldid=659887

Mae'r cymariaethau rhwng y crefyddau yn ddadleuol. Gwelwch er enghraifft:

"Er enghraifft, efallai edrychai un Wiciaid ar y Dduwies Almaenaidd Eostre, y Dduwies Hindŵ Kālī, a’r Gristion y Forwyn Fair fel amrywiaethau o un uwch-Dduwies — ac yn yr un modd, y Celtaidd Cernunnos, a'r Groegwr Hynafol gyda'i Dionysus a'r Judeo-Gristionogol Yahweh fel amrywiaethau o un Duw goruchel."

Efallai byddai rhai o'r grwpiau hynny yn cytuno bod eu duwiau eu hunain yn gymaradwy â'r duwiau eraill, ond byddai Iddewon a Christnogion yn ystyried bod y cymariaethau sy'n cynnwys Yahweh yn sarhaus iawn, gan fod y beibl yn datgan yn groch ni ddylid cymharu Yahweh ag unrhyw duw arall. Ac yn yr un modd, mae cymharu'r beibl a'r coran, a chymharu'r croes a'r symbolau wicaidd, yn ddadleuol hefyd.

Dwi'n gwybod hynny, ond i bobl sydd ddim yn gwybod beth yw Wica neu Baganiaeth (ayyb), mae'n lot haws iddynt gael rhywbeth eu bod yn gallu cymharu (e.e.) y Llyfr y Cysgodion, sydd ar sail gyfartal â'r Beibl yn Wica. Ac ie, efallai edrychai un Wiciaid ar y Dduwies Almaenaidd Eostre, y Dduwies Hindŵ Kālī, a'r Gristion y Forwyn Fair fel amrywiaethau o un uwch-Dduwies, ac mae hyn yn gywir. Jyst oherwydd nid yw Cristnogaeth a chrefyddau eraill meddwl bod y duwiau/duwiesau gwahanol yn bodoli, gall Wicaid yn meddwl eu bod yn rhan o'r un uwch-Dduwies. A dyna eu barnau nhw. Gall barn Wica gynnwys Eostre, Kali, a'r Forwyn Fair â'r un Dduwies. Dwi o blaid rhoi'r testun yn ôl. Dwi'n gwybod 'sdim ots o'r hyn a ddywedaf, ond - mae'r testun yn bodoli ar y Wici Saesneg. Cofio ein bod yn ysgrifennu ynglŷn ag Wica yn yr erthygl, a chymharu'n unig yr ydym yn y fa'na. (Ô.N,. Dau 'n' sydd gen i yn fy enw). Xxglennxx 18:23, 24 Tachwedd 2009 (UTC)
(Esgusodch fi am gamsillafiad eich enw.)
Ddylai'r erthygl ei hun ddim gwneud cymariaethau fel y rheiny, felly nid ydy cymariaethau gyda chrefyddau eraill yn fodd addas i esbonio pethau o'r Wica i'r darllenwr. Rhaid eu heglurhau nhw yn eu termau eu hunain. Gallai'r erthygl ddweud beth mae'r wicaid yn meddwl wrth gwrs, ond mae'r frawddeg uwch yn dweud mwy na hynny - mae'n honni edrychai'r Cristion ar y Forwyn Fair fel fasai'r Wiciaid ar Eostre - sy'n hollol anghywir. Yn yr ail a'r drydded frawddeg y dileuais i (ni ddangoswyd uwch), mae'r erthygl ei hun yn gwneud y cymariaethau, a rhaid i hynny fod yn anghywir. Ond ceisiaf i newid y frawddeg gyntaf i ffurf sy'n disgrifio meddwl y wicaid heb ddweud bod unrhywun arall â'r un meddwl. Rhaid bod yn bosib i bobl gytuno efo'r erthygl hyd yn oed os maen nhw'n anghytuno'n bersonol efo'r crefydd.
Wedi gwneud rwan. Gyda'r gwahaniaeth hwn, cewch weld beth dwi wedi ychwanegu, a beth dwi wedi gadael allan. http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Wica&action=historysubmit&diff=660686&oldid=660614
>>mae'n honni edrychai'r Cristion ar y Forwyn Fair fel fasai'r Wiciaid ar Eostre<< Nage! Rwyt ti'n camddeall o hyd - mae'n dweud bod Wiciaid yn *gallu* gweld agweddau'r Forwyn Fair, Eostre, a Kali fel yr un Fam Fawr. Yn Wica, ceir dwy ffordd wahanol o weld y duwdod: fel pethau unigol, neu bethau'r un "peth." Fel y hexagons ar be^l - mae pob un hecsagon yn unigol ac yn wahanol i'r llall (efo scratches gwahanol ayyb), ond maen nhw i gyd yn rhan o'r un be^l. Dwi'n gweld o le rwyt ti'n dod, ond mae gan bopeth fel hyn (yn enwedig gyda chrefydd) gymariaethau. Fel y dywedais yn barod, mae'n wneud fe'n haws i bobl deall. Wicaidd wyt ti, 'da llaw? Hefyd, cofio llofnodi dy byst, os gweli di'n dda :) Xxglennxx 21:42, 24 Tachwedd 2009 (UTC)

Sawl 'c' sydd yn Wica?

Un i fod yn driw i deithi'r Gymraeg, yn te? Newid i Wica? Llywelyn2000 23:46, 24 Ionawr 2009 (UTC)

Dim syniad. Mae un 'c' yn naturiol yn y Gymraeg, wrth gwrs - ond oes 'na enghreifftiau ar gael rywle? Anatiomaros 00:04, 25 Ionawr 2009 (UTC)
Dwinna yn dueddol o fynd am un; mi arhosaf am chydig er mwyn i eraill gael dweud eu barn. Llywelyn2000 00:44, 25 Ionawr 2009 (UTC)
Na, dwi ddim yn cytuo mi ddyslwn ei newid i "Wica." Y gair, yn fwyaf y byd, ydi "Wicca," a does dim gair yn Gymraeg iddi, felly yn fy marn i, mi ddyslwn gludo at y gair Saesneg, sef "Wicca." Wiccan1
Wel, mae hynny yn fater o farn. Ond mae gan yr iaith Gymraeg ei rheolau orgraff ei hun am ei bod yn iaith ffonetig. A gyda llaw, mae yna enghreifftiau o'r ffurf Wica ar y we hefyd, yn cynnwys y wefan yma sy'n un o sawl rhai sy'n dadlau mai 'Wica' yw'r ffurf gywir yn lle 'Wicca'. Ond does dim ots pa ffurf mae pobl yn defnyddio mewn ieithoedd eraill, mae'r Wicipedia yn wefan Gymraeg. Ond yn bwysicach o lawer na sillafiad y gair ei hun ydy'r ffaith eich bod wedi dadwneud y cywiriadau i'r testun unwaith eto. Mae hynny'n annerbyniol (gweler isod). Mae angen cywirio y testun rydych wedi ychwanegu hefyd (o ran iaith; dim yr hyn sy'n cael ei ddweud). Rwan, y cwestiwn ydy, os awn ni ati i wneud hynny, sy'n golygu cryn dipyn o waith, ydych chi yn mynd i ddadwneud y golygiad hynny? Gobeithio dim. Mae croeso i chi gyfrannu yma ac mae'r erthygl yn ymdrin â phwnc sy wedi cael ei esgeuluso braidd hyd yn hyn, ond rhaid i chi - fel pawb arall - barchu rheolau'r iaith Gymraeg a hefyd y ffaith fod cyfranwyr eraill yn ceisio gwneud yr erthygl yn dderbyniol a safonol o ran iaith a mynegiant. Anatiomaros 16:41, 28 Ionawr 2009 (UTC)
ON Dwi wedi adfer yr hen olygiad ac wedi rhoi eich ychwanegiadau diweddar yn ôl i mewn hefyd, ond wedi eu cuddio am rwan hyd nes y ceiff rhywun yr amser i fynd drosto: mae 'na nifer o wallau iaith sydd angen eu cywirio, ac wedyn ceiff ymddangos yn yr erthygl ei hun. Dwi'n gobeithio bod hyn yn gyfaddawd teg. Anatiomaros 17:06, 28 Ionawr 2009 (UTC)
Gawn ni gytuno i symud hyn i Wica felly? Anatiomaros 00:30, 29 Ionawr 2009 (UTC)
Os nad oes wrthwynebiad, dwi am symud hyn i Wica yn nes ymlaen. Anatiomaros 22:29, 29 Ionawr 2009 (UTC)

Roedd newid i "Wica" yn groes i arferion yr iaith safonol. Yn yr iaith safonol "Wicca" ydy, heb os nac onibai. Sanddef 19:29, 26 Chwefror 2010 (UTC)

Ond pam yn union, Sanddef? Sut ydy hynny'n "groes i arferion yr iaith safonol"? Hyd y gwelaf i, gellir derbyn yr enw Wicca fel enw estron, heb ei newid, neu gellir ei Gymreigio; os Cymreigir yr enw dwi'n methu gweld sut mae cadw'r 'c' ddiangen yn ffurf safonol. Oes gen ti ffynhonnell am hyn? Mae gan rhai o'r erthyglau wicipedia sillafiadau gwahanol, e.e. Viko a Vika, ac hefyd dwi wedi cael ambell gyfeiriad ar y we at wefannau sy'n honni mai 'Wica' - gydag un 'c' - yw'r ffurf gywir (yn Saesneg ac yn gyffredinol) beth bynnag. Ond waeth beth yw'r arfer mewn ieithoedd eraill yr hyn sy'n gyson â theithi'r iaith Gymraeg sy'n cyfrif. Anatiomaros 23:12, 26 Chwefror 2010 (UTC)
WTF! What the hell is seriously going on here! Have you seen the size of this article now! It's crap! I've spent ages on it, and there's barely nothing left of it! I'm immediately reverting all changes done by Sanddef. Xxglennxx 01:19, 27 Chwefror 2010 (UTC)
Anatiomaros, nid yw'n arferol cymreigio enwau fel Wicca yn y Gymraeg. Mae'n hollol ddiangen. Y peth arferol i'w wneud yw trin enwau o'r math yma fel enwau dinasoedd tramor neu enwau personau, hynny yw: as nad oes ffurf Gymraeg eisoes yn bodoli, defnyddio'r ffurf wreiddiol. Xxglennxx, stop making a mess of occult articles with your half-cocked translations of copy and paste jobs. Better a short stub that makes sense than a long page of gibberish. This isn't Google Translate, this is an online encyclopaedia for Welsh speakers. Any Welsh speaking academic visiting this article as you left it would never visit Wicipedia again.Sanddef 05:35, 27 Chwefror 2010 (UTC)
Beth bynnag, Sanddef. Dwi wedi cael digon nawr. Dwyt ti heb fod ar yr olygfa am oes, a nawr ti'n dod yn ôl a newid pethau. Ceisio cyfrannu erthyglau ynglŷn â Phaganiaeth ac Wica dwi, ond mae'n amlwg dwyt ti ddim isio nhw yma. Gwn i nad y GT yw hwn, ac dwi wedi mynd drosodd popeth, gan gymharu'r Saesneg a'r Gymraeg, cyn cyhoeddi tudalen. Os nad oedd yn gwneud synnwyr, dwi'n siŵr fydd rhywun un dweud rhywbeth cyn aeth yn rhy bell. Dwi ddim yn nabod neb sydd yn academydd ac yn ymweld â'r Wici Cymraeg (neu Wici arall), oherwydd mai'r boblogaeth gyffredinol yw'r bron mwyaf o'r ymwelwyr - ie, nid oed ots, ond jyst dweud dwi. Xxglennxx 17:03, 27 Chwefror 2010 (UTC)

"Dim isio nhw yma"?! Am amynedd! Fi a ddechreuodd yr erthyglau cyntaf ar yr ocwlt yma! "Os nad oedd yn gwneud synnwyr, dwi'n siŵr fydd rhywun un dweud rhywbeth cyn aeth yn rhy bell"! Mae hi WEDI mynd rhy bell, a dwi YN Dweud! Sanddef 18:34, 27 Chwefror 2010 (UTC)

Fy nghyfraniadau, dwi'n golygu. Sdim ots gen i dros pwy ddechreuodd yr erthygl gyntaf - fi ddechreuodd yr erthygl hon! A lle wyt ti wedi bod? Dwyt ti heb fod yn cyfrannu ers oes cyn diweddar - pobl arall megis Anatiomaros ac ati dwi'n cyfeirio atynt. Felly, i ddilyn yr hyn a ddywedais isod - beth sydd yn bod â'r erthygl y sut mae hi ar hyn o bryd (wel, nid ar hyn o bryd bellach - pan yr oedd cyn i ti newid hi)? Beth yn union? Xxglennxx 18:58, 27 Chwefror 2010 (UTC)
Pa ots faint o amser dw'i wedi bod i ffwrdd? Jyst gad lonydd iddo a gadael i'r gweinyddwyr benderfynu. Sanddef 19:06, 27 Chwefror 2010 (UTC)

O ie a TI ddechreuodd hi felly? Wel Mr 91.108.164.253 o edrych ar hanes yr erthygl mae'n amlwg dy fod wedi cael dy rybuddio sawl gwaith o'r blaen. Sanddef 19:12, 27 Chwefror 2010 (UTC)

Do, gwnes i. Diolch am dynnu hynny lan. Dwi wedi gwella fy Nghymraeg ers hynny, a sdim byd mwy i'w dweud amdani nawr. Iawn, gadawem ni fe i'r gweinyddwyr. Yn y cyfamser, paid newid yr erthygl nôl. Diolch yn fawr iti. 20:41, 27 Chwefror 2010 (UTC)
Gad lonydd iddo achan. Ti wedi bod yn malu cywiriadau pawb am dros flwyddyn bellach. Sanddef 21:08, 27 Chwefror 2010 (UTC)
Allet ti roi enghreifftiau? Ti dal heb ddweud beth, yn union, sydd allan o'i le efo cynnwys yr erthygl. Diolch. Xxglennxx 21:20, 27 Chwefror 2010 (UTC)
I beth? Ti wedi treulio blwyddyn gyfan yn anwybyddu pawb. Os ti isio gwersi Cymraeg, dos i'r Goleg. Sanddef 21:56, 27 Chwefror 2010 (UTC)
Reit, nawr dwi wedi cael digon. Diolch am go ata i, Sanddef, a diolch am fy sarhau. Er dy wybodaeth, dim ond helpu ymestyn y Wici bach 'ma dwi, ond os caf i 'nhrin fel hyn, wedyn dwi ddim yn stico rownd. Gwnei di bopeth - ynglŷn â Phaganiaeth, ynglŷn â Wica (o'r hyn nad wyt ti'n wybodus o gwbl), ynglŷn â Dewiniaeth (yes - Witchcraft), ynglŷn â'r holl gelfyddydau ocwltaidd. Bant â fi am byth o'r Wici yma. Pob lwc efo'r holl waith - ac na, dwi ddim yn bod yn wawdlyd o gwbl, oherwydd mae lot o waith i'w wneud ar y Wici 'ma ynglŷn â'r categorïau hynny. Hwyl fawr. Xxglennxx 22:22, 27 Chwefror 2010 (UTC)
Ta ra! Sanddef 22:38, 27 Chwefror 2010 (UTC)

Newidiadau diweddar

Sanddef, rwyt ti wedi bod yn newid llawer o erthyglau da ymhob man, gan gynnwys Wica. Dwi, ac eraill, wedi cyfrannu llawer i'r erthygl hon (yn benodol), ac iti jyst droi lan a newid popeth, gan gynnwys tynnu llawer llawer llawer o eiriau a chynnwys, wel - nad yw'n deg i bobl sydd wedi treulio eu hamser arni/arnynt. Paid ag ail-wneud e eto. Dwi'n gallu jyst gwrth-droi mor fuan ag y gallet newid, cofio. Dwi ddim am gael ffrae o gwbl, ond mae'n rhaid iti sylweddoli fod angen trafod yn gynaf (dim angen trafod pan ti'n jyst dileu'r holl gynnwys - byddaf i'n wrth-droi fe ta waith). Xxglennxx 01:51, 27 Chwefror 2010 (UTC)

Roedd yr erthygl yn chwerthinllyd o wael, Doedd e ddim hyd yn oed yn gwneud unrhyw synnwyr yn y Gymraeg. Rhy hir, gormod o wallau iaith, sothach llwyr annealladwy, "copy a paste a hanner translate" job. Sanddef 05:28, 27 Chwefror 2010 (UTC)
Beth nad oedd yn gwneud synnwyr? Pa fath o wallau iaith? Beth oedd yn annealladwy? Allet ti roi enghreifftiau imi, os gweli di'n dda? Xxglennxx 17:05, 27 Chwefror 2010 (UTC)

Hysbyseb i amldduwiaeth

Dylai'r erthygl gynnwys adran feirniadaeth. Fel y mae hi mae'n yddangos bod y "grefydd" hon ar yr un safiad á chrefyddau eraill. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Iddew (sgwrscyfraniadau) 01:53, 17 Mehefin 2010

Ni ddylai. Nid oes dim adran feirniadu ar unrhyw erthygl sy'n ymwneud â chrefydd ar Wicipedia neu Wikipedia arall. Nid yw hon y lle i honni am feirniadaeth, gan fod barnau yw beirniadaeth, ac nid yw Wicipedia yn cynnwys barnau personol. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:23, 17 Mehefin 2010 (UTC)



Nôl i'r dudalen "Wica/Archif".