Sgwrs:William John Gruffydd

Sylw diweddaraf: 2 fis yn ôl gan Figaro-ahp ym mhwnc Y Parth Cyhoeddus

Y Parth Cyhoeddus

golygu

@Defnyddiwr:Figaro-ahp Gweld o'r nodiadau golygu dy fod wedi "tynnu'r gerdd gan nad yw yn y parth cyhoeddus." Mae hawl i ddyfynnu pytiau bach o waith sydd ddim yn y parth cyhoeddus o dan yr hawl "defnydd teg", os yw'n cyfoethogi'r erthygl mewn ffordd resymol ee i ddangos arddull awdur, neu fel clip o'i waith enwocaf / pwysicaf.
Gan fu farw WJ 70 mlynedd yn ôl i ddoe, daw ei holl waith i'r parth cyhoeddus, mewn cwta ddeufis ar 1 Ionawr 2025, prin fod unrhyw un yn mynd i'n herlyn am ychydig wythnosau o dor hawlfraint.
Diolch am dy gyfraniadau AlwynapHuw (sgwrs) 23:44, 30 Medi 2024 (UTC)Ateb

Cytuno. A chyfiawnhad arall yw dyfynu i bwrpas adolygiad: sy'n debyg iawn i'n defnydd ni ar wici. 2A00:23C6:990D:1B01:EC68:9818:3B4E:CB5E 11:44, 1 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Diolch. Derbyn eich pwyntiau. Yn bersonol dwi'n teimlo:
1) gan mae Gwyddoniadur ffeithiol ac adnodd ffeithiol yw Wicipedia, teimlaf nad yw dyfynu cerdd gyfan o eiddo unrhyw fardd ar wici yn gwneud synnwyr oni bai y gwneir hynny ar dudalen benodol i'r gerdd honno, ynghŷd â dadansoddiad o'r gerdd benodol, ei phwysigrwydd i'r bardd a llenyddiaeth ac yn y blaen. Wicidestun mae'n siŵr yw'r lle i roi cerddi heb eu ddadansoddi na'u hesbonio.
2) Ni rhoddwyd bron dim o gyd-destun nac esboniad ar gyfer ei phresenoldeb yn yr erthygl, dim ond "dyma gerdd". Gellid wedi rhoi dolen i wicidestun.
3) Nad yw'r gerdd benodol honno'n neilltuol o gynrychioladwy o WJ Gruffydd beth bynnag.
Serch hynny os oes ar rywun eisiau dychwelyd y gerdd i'r erthygl byddaf ddim yn ei dileu eto. Figaro (sgwrs) 13:24, 2 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "William John Gruffydd".