Sgwrs Categori:Pobl a gafwyd yn euog o derfysgaeth

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Adam in topic Wedi symud

Agor tun arall o bry genwair: Categori Terfysgwyr [o Archif y Caffi] golygu

O ddilyn dolenni o'r erthygl Tŷ haf, dyma fi'n dod ar draws erthygl am Sion Aubrey Roberts sydd wedi cael ei restru yn y categori Categori:Terfysgwyr. Mae'r categori yma yn fach iawn ar hyn o bryd, unia oherwydd diffyg erthyglau am derfysgwyr, neu nad yw rhai sy'n bobli wedi eu categareiddio gywir eto. Ond rhiad i mi ddweud mae cynnwys y categori yma yn edrcyh braidd yn od:

Mae'r diffiniad o bwy sy'n derfysgwr yn gallu bod reit pen agored, ond o'r chwech bonheddwr uchod, mae tri yn genedlaetholwyr Cymreig a'u dedfrydwyd i garchar am ddinistrio eiddo, tra mae'r lleill yn eithafwyr Islamaidd sydd wedi/eisiau lladd pobl ar sail eu cred (cwyriwch fi as dw i'n anghywir).

Efallai bod bias yn fan hyn o fy rhan i, ond dw i ddim yn credu bod y tri Cymro yma'n haeddu cael eu hystyried yn derfysgwyr, ac a gawsant i gyd eu cyhuddo o dan ddeddfau terfysgaeth neu dim ond difrodi eiddo preifat/cyhoeddus? Hefyd, gelli'r dadlau y dylai pobl fel Nelson Mandela (a garcharwyd am fod yn aelod o grŵp terfysgol?) fod o fewn y categori hefyd.--Ben Bore 08:55, 26 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Efallai mai'r ateb gorau fyddai dileu'r categori Terfysgwyr. Mae'n siwr fod modd defnyddio categoriau eraill sydd ddim yn mynegi barn am y person yn yr un modd. Rhion 12:35, 26 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Dileu'r categori yw un posibilrwydd. Penderfynu am safonau gwrthrychol yw un arall. Mae enghraifft o restr o safonau digon gwrthrychol i'w gweld ar en:Category:Terrorists; mae'r pwyntiau sy'n cael eu rhestri yna yn ymddangos i mi yn resymol yn gyffredinol, ond rhaid diffinio beth yn union mae "violence" yn golygu. Efallai ceir ei ddifinio fel trais yn erbyn pobl yn hytrach na thrais yn erbyn eiddo, os ydym ni am i'r safonau fod yn llai cynhwysol. Ond dwi'm yn siwr pa mor hawdd yw hi i wahaniaethu fel hynny -- pan osodir bom, pwy a ŵyr be fydd y canlyniadau? Alan 18:05, 26 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Mae hyn yn codi pob math o broblemau. Roedd y Natsïaid yn rhoi'r label "terfysgwyr" ar y resistance yn Ffrainc am eu bod yn chwythu trenau i fyny (llawn o filwyr Almaenig fel rheol ond roedd sifiliaid diniwed yn cael eu lladd mewn canlyniad hefyd weithiau). Ac fel mae Ben yn dweud, "terfysgwr" oedd Mandela, a hynny yn swyddogol (barn yr awdurdodau apartheid, wrth gwrs...). Cofier hefyd nad yw gwladwriaeth sy'n lladd miloedd o bobl diniwed mewn rhyfel yn cael y label "terfysgwr" chwaeth, fel rheol (a hynny mewn rhyfel yn erbyn terfysgaeth, efallai!). Ond os ydym ni am ei ddileu be gawn ni yn ei le? Anatiomaros 22:54, 28 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Byddwn i o blaid dileu'r categori. Allai i ddim meddwl bod un categori arall yn mynd i allu cymryd ei le, a dyna oedd fy mhwynt, ni ddylai, Mandela, D.J Williams a Osama bin Laden fod yn yr un categori yn y lle cyntaf (yn fy marn i wrth gwrs!). --Ben Bore 09:49, 2 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Cytuno. Llywelyn2000 20:16, 2 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Tynnais D. J. o'r categori rhai dyddiau'n ôl (sôn am benderfyniad hurt, ei roi o yno yn y lle cyntaf: "Llenor a therfysgwr oedd D. J. Williams..."!). Efallai y peth hawsaf yw ei ddileu, er bod rhai pobl a mudiadau sy'n haeddu bod yno. Anatiomaros 16:52, 4 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
ON Beth am Categori:Troseddwyr. Unwaith yn rhagor mae rhaid bod yn ofalus. I mi, mae "troseddwr" (h.y. criminal) yn rhywun sy'n dewis mygio neu rywbeth tebyg fel gyrfa, a dydi o ddim yn cynnwys pobl a dorrodd y gyfraith (neu a gafwyd yn euog, yn gam neu'n gymwys) ar ryw achlysur neilltuol neu dros egwyddorion (ymgyrchwyr iaith a heddwch, er enghraifft). Rhaid bod yn arbennig o ofalus yn achos pobl byw neu gawn ni achos enllib! Anatiomaros 17:04, 4 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Troseddwyr: fy awgrym i ynghlyn a hwn fisoedd yn ol oedd dileu personau byw. Hyn yw fy marn heddiw hefyd. Llywelyn2000 22:31, 4 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Copiwyd o'r Caffi wrth archifio. Anatiomaros 12:58, 9 Medi 2009 (UTC)Ateb

Wedi symud golygu

Rwyf wedi symud y categori hwn i Categori:Pobl a gafwyd yn euog o derfysgaeth. —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:58, 10 Gorffennaf 2011 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Pobl a gafwyd yn euog o derfysgaeth".